Fydd Plaid Cymru ddim ond un pwynt canran tu ôl i Lafur erbyn 2026, yn ôl pol piniwn sy’n mesur sut fydd pobol yn pleidleisio yn etholiadau’r Senedd ymhen dwy flynedd.

Erbyn etholiad y Senedd yn 2026, bydd nifer yr Aelodau wedi cynyddu o 60 i 96, gyda chwe aelod yn cynrychioli pob un o’r 16 etholaeth.

Bydd system D’Hondt yn cael ei defnyddio i ethol aelodau, sef system sy’n defnyddio rhestrau ymgeiswyr caeëdig, a bydd etholwyr yn pleidleisio dros blaid yn hytrach nag unigolion.

Ar hyn o bryd, caiff ugain o Aelodau rhanbarthol y Senedd eu hethol drwy system restr, gan ddefnyddio dull D’Hondt. Ond o dan y cynlluniau hyn, byddai’r 96 i gyd yn cael eu hethol drwy ddefnyddio’r drefn honno.

O’r 2,565 o bobol gafodd eu holi, mae’r gefnogaeth i’r pleidiau fel a ganlyn (gan hepgor y rhai ddywedodd nad oedden nhw’n gwybod):

Llafur: 25%

Plaid Cymru: 24%

Y Ceidwadwyr: 16%

Reform UK: 16%

Diddymu’r Cynulliad: 7%

Y Blaid Werdd: 6%

Y Democratiaid Rhyddfrydol: 6%

Arall: 1%

Gwahaniaethau rhwng y Senedd a San Steffan

Fel rhan o’r astudiaeth gan Dr Jac Larner ar gyfer Canolfan Llywodraethiant Cymru, cafodd pobol eu holi sut wnaethon nhw bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Gorffennaf a sut fydden nhw’n pleidleisio yn etholiadau’r Senedd.

Yn gyffredinol, mae patrymau pleidleisio San Steffan a’r Senedd yn wahanol beth bynnag.

Ar ôl yr Etholiad Cyffredin diwethaf, roedd Llafur ar y blaen o ugain pwynt i Blaid Cymru. Ond mewn etholiad Senedd damcaniaethol, mae’r bwlch yn gostwng i un pwynt.

Mae’r data’n dangos y patrwm arferol o bleidleiswyr Llafur mewn Etholiad Cyffredinol yn troi at Blaid Cymru yn y Senedd.

Patrwm bach arall yw fod pleidleiswyr Ceidwadol yn yr etholiad yn San Steffan yn symud fymryn tuag at Blaid Diddymu’r Cynulliad.

Dywed Jac Larner mai’r rheswm pam fod cynifer o bleidleiswyr yn symud rhwng Llafur a Phlaid Cymru yw fod pleidleiswyr Llafur yn hoff o Blaid Cymru.

Roedd gofyn i ymatebwyr farcio pob plaid ar raddfa o 0-10.

Yn naturiol, roedd pobol yn rhoi’r sgôr uchaf i’w plaid eu hunain, ond roedd y bwlch rhwng asesiad pleidleiswyr Llafur o’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru’n llai nag unrhyw fwlch arall.