Mae’r darlledwr Huw Edwards wedi cael ei gyhuddo o greu delweddau anweddus o blant, yn ôl Heddlu Llundain.

Mae’n wynebu tri chyhuddiad, dri mis ar ôl ymddiswyddo o’r BBC ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod e wedi talu miloedd o bunnoedd i berson ifanc am ddelweddau o natur rywiol.

Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â delweddau ar WhatsApp.

Yn ôl y daflen gyhuddiadau, mae e wedi’i gyhuddo o fod â chwe delwedd Categori A, y categori mwyaf difrifol, deuddeg delwedd Categori B, a 19 o ddelweddau Categori C ar WhatsApp.

Pe bai’n cael ei ganfod yn euog, mae’n wynebu cyfnod o garchar.

Adeg ei ymddiswyddiad, doedd yr un darlledwr newyddion yn y Gorfforaeth yn derbyn mwy o gyflog na’r Cymro Cymraeg, oedd yn ennill cyflog rhwng £475,000 a £479,999 ac roedd e’n drydydd ar rhestr holl staff y BBC.

Datganiad yr heddlu

Mae Heddlu Llundain wedi enwi Huw Edwards mewn datganiad, gan ddweud ei fod e’n wynebu tri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant.

Daw hyn ar ôl i’r heddlu gynnal ymchwiliad a’i arestio fis Tachwedd y llynedd.

Yn ôl yr heddlu, digwyddodd y troseddau honedig rhwng Rhagfyr 2020 ac Ebrill 2022, ar ôl i ddelweddau gael eu rhannu mewn sgwrs ar WhatsApp.

Cafodd ei gyhuddo ddydd Mercher (Gorffennaf 26) ar ôl i’r heddlu gael caniatâd Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Mae e wedi’i ryddhau ar fechnïaeth, ac fe fydd yn mynd gerbron ynadon ddydd Mercher (Gorffennaf 31).