Mae prisiau tai yng Nghymru wedi cynyddu am y tro cyntaf ers 2022, yn ôl Cymdeithas Adeiladu Principality.

Pris cyfartalog tŷ yng Nghymru heddiw yw £236,369 yn ôl y gymdeithas.

Mae ffigurau Mynegai Prisiau Tai Cymru Cymdeithas Adeiladu Principality yn dangos y cynnydd a’r gwymp ym mhrisiau tai ledled 22 awdurdod lleol Cymru ar gyfer ail chwarter 2024 (Ebrill i Fehefin).

Ar ôl pum chwarter o ostyngiadau’n olynol, mae’r gymdeithas bellach yn gweld gwelliant.

Dyma’r tro cyntaf i brisiau tai gynyddu ers Rhagfyr 2022, pan gododd pris cyfartalog i £249,000.

Cafodd mwy na 10,200 o dai eu prynu a’u gwerthu yng Nghymru rhwng Ebrill a Mehefin, sydd 24% yn fwy na’r cyfnod rhwng Ionawr a Mawrth ac 16% yn uwch o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Y farchnad yn dechrau sefydlogi

Mae’r mwyafrif o siroedd Cymru wedi adrodd am brisiau uwch rhwng Ebrill a Mehefin am y tro cyntaf ers 2022.

Serch hynny, gwelodd ardaloedd fel Wrecsam ostyngiad o 10% o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Dywed Shaun Middleton, pennaeth dosraniad Principality, fod y farchnad dai yn dechrau gwella a “sefydlogi”.

“Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi nodi’r amodau marchnad tai mwyaf heriol ers yr argyfwng ariannol byd-eang yn 2008,” meddai.

Mae’r bobol sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yn wynebu’r amodau anoddaf ers 70 mlynedd, yn ôl y gymdeithas.

Mae Llywodraeth Lafur newydd y Deyrnas Unedig yn symud yn eu blaenau’n gyflym â deddfwriaeth newydd sydd â’r nod o gyflymu datblygiad seilwaith ac adeiladu 1.5m o gartrefi yn Lloegr.

Yng Nghymru, bwriad Llywodraeth Cymru yw darparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i’w rhentu yn ystod y tymor presennol.