Mae deng mlynedd ar hugain ers i’r blog cyntaf gael ei gyhoeddi, ond pa mor boblogaidd yw’r cyfrwng erbyn heddiw?
Efallai bod ambell un yn ansicr am gyfrwng y blog – yn fras, erthygl fer ar unrhyw bwnc, gaiff ei gyhoeddi ar y wê.
Mae gan flogiwr ryddid a hyblygrwydd – o’r pwnc i’r arddull ysgrifenedig, y diwyg a’r hyd. Ond a yw’r blog wedi cydio cystal â’r cyfryngau eraill?
Wrth siarad â golwg360, dywed yr awdur Bethan Gwanas fod y “blog wedi chwythu ei blwc, mae’n debyg”.
Blogiwr llyfrau plant oedd hi, ond dydy hi ddim wedi blogio ers sawl blwyddyn oherwydd diffyg amser.
Dywed nad oedd ganddi’r amser gan fod angen cael gafael ar y llyfrau a’u darllen cyn blogio. Hefyd, roedd trafferthion a chymhlethdodau technolegol yn rhwystr.
“Roedd WordPress yn newid eu system fel fy mod i’n cymryd mwy o amser i weithio allan be’ oedd angen ei wneud yn dechnegol – felly ges i lond bol!” meddai.
Y broblem fwyaf efo blog yw fod angen cyfeirio pobol i fynd ar y wefan yn y lle cyntaf, sy’n wahanol i’r cyfryngau cymdeithasol lle mae’r wybodaeth o’ch blaenau.
Efallai mai dyma le mae’r blog wedi cael trafferth dal ei dir.
Blogio ers yn ddeg oed
Serch hynny, un sydd wedi bod yn blogio er pan oedd yn ddeg oed yw Gruffudd ab Owain o’r Bala.
Er mai ei deulu yn unig oedd yn darllen ei flogiau pan oedd yn ifanc, fe gyhoeddodd ei flog cyntaf chwe blynedd yn ôl, ac mae’n blogio’n gyson bellach ar y blog seiclo Y Ddwy Olwyn.
Wrth siarad â golwg360, dywed fod y cyfleoedd mae wedi’u cael wrth flogio yn “amhrisiadwy”.
Mae bellach wedi cael y fraint o ysgrifennu i gyhoeddiadau ledled Cymru, gan gynnwys Golwg, y BBC, Croeso Cymru, ac mae hefyd yn ddirprwy olygydd Y Selar erbyn hyn.
“Mae wedi rhoi cyfle imi ystwytho’r grefft o sgwennu, a sgwennu i gynulleidfa benodol,” meddai.
“Ysgrifennu ydi ’nghryfder i, a dw i’n gwybod ’mod i’n gallu sgwennu!”
Er nad yw’n blogio mor aml ag yr hoffai bellach, noda ei fod wedi llwyddo i ysgrifennu rhwng 250 a 300 o wahanol ddarnau blog ar feicio, sy’n dyst i ba mor gyfoethog ydi’r gamp.
“Mae’n braf hefyd bod yna gynulleidfa Gymreig i’r cynnwys a’n bod ni, rywsut neu’i gilydd, wedi llwyddo i adeiladu rhyw fath o gymuned o seiclwyr sy’n siarad Cymraeg.”
Elwa o’r cyfleoedd
“Mae o’n bechod rili, o ystyried gymaint dw i wedi elwa o fod yn sgwennu blog, ei fod yn gyfrwng sy’n prysur ddiflannu yn yr iaith Gymraeg,” meddai Gruffudd ab Owain wedyn.
“Heb y gallu i gychwyn a sgwennu blog yn rheolaidd, faint o gyfle sydd i bobol ymarfer eu crefft o sgwennu yn gyhoeddus?
“Yn arbennig sgwennu mewn arddull sydd ddim yn ffuglen – dwi wedi elwa o’r cyfleoedd sydd i sgwennu’n greadigol hefyd, afraid dweud, ond mae yna brinder sgwennu ffeithiol-greadigol yn y Gymraeg, yn bendant.”
Ychwanega fod y cyfrwng ei hun yn prysur ddiflannu, dim ots ym mha iaith mae’r ysgrifennu.
A yw’r blog erioed wedi cael ‘oes aur’?
Mae rhai yn dadlau nad yw’r blog erioed wedi cael ei ‘oes aur’ fel mae’r podlediad a’r sianel YouTube wedi’i chael, a’i fod wedi dioddef o’r herwydd.
Ar ddechrau’r mileniwm, daeth rôl blogiau i’r brif ffrwd wrth i ymgynghorwyr gwleidyddol, gwasanaethau newyddion ac ymgeiswyr ddechrau ysgrifennu blogiau fel arf wleidyddol.
Ond gydag arferion pobol yn newid, ac esblygiad y cyfryngau cymdeithasol, bu’n rhaid i’r blog gystadlu yn erbyn cyfryngau sy’n llawer iawn mwy hygyrch a chyfleus.
“Ni chafodd y cyfrwng erioed y fath lwyddiant a phoblogrwydd ag y mae cyfryngau fel YouTube, podlediadau, Instagram, a TikTok yn eu cael neu wedi’u cael – os cafodd o unrhyw ‘oes aur’, yna mi ddaeth X (Twitter gynt) a blogio meicro yn ei le yn fuan iawn,” meddai Gruffudd ab Owain.
Podlediadau sy’n mynd â bryd pobol heddiw
Heb os, mae cyfryngau fel y podlediad yn hawdd eu cyrraedd, gan eu bod oll yn yr un lle ar Spotify neu Apple Podcasts.
Cryfder arall y podlediad yw fod modd gwrando arnyn nhw wrth wneud pethau eraill – yn y car neu o gwmpas y tŷ.
Mae Bethan Gwanas hefyd wedi troi at y cyfrwng wrth iddi gyd-gyflwyno’r podlediad Colli’r Plot gyda Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros, ac mae hi’n cael llawer o hwyl arni.
Yn anffodus i Gruffudd ab Owain, dydy Y Ddwy Olwyn ddim yn cael yr un flaenoriaeth heddiw ag yr oedd o’r blaen, ac mae hynny wedi digwydd yn naturiol oherwydd prosiectau eraill.
Dywed ei fod wedi “cael y cyfle i gyd-gyflwyno’r podlediad efo Dan ar hap a damwain”.
“Fi oedd y gwestai cyntaf, ac wedyn mi ges i aros ymlaen fel ail lais,” meddai.
Ond bydd lle pwysig gan Y Ddwy Olwyn yn ei galon, ac mae eisiau defnyddio ei flog “i wneud gwahaniaeth”.
“Beth bynnag arall sy’n mynd â ‘mryd i ar adeg benodol, mi fydd Y Ddwy Olwyn yn parhau fel gofod i mi sgwennu a, gobeithio, ryw ddydd fel gofod i eraill sgwennu hefyd,” meddai.