Mae’n debyg bod cyw grugiar goch wedi cael ei ladd gan feic mynydd mewn safle gwarchodedig yn Sir Ddinbych.
Cafodd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eu hysbysu gan aelod o’r cyhoedd ar 18 Mehefin fod beic mynydd yn ôl pob tebyg wedi reidio dros gyw grugiar goch ar Fynydd Rhiwabon. Yn ôl yr adroddiad roedd marciau teiars ar hyd corff y cyw pan gafwyd hyd iddo.
Mae Mynydd Rhiwabon yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ehangach Mwynglawdd a Mynyddoedd Rhiwabon a Llantysilio ac mae beicio oddi ar y ffordd yn yr ardal hon yn drosedd o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad.
Mae’r rhostir ar Fynydd Rhiwabon yn cynnal cymuned o adar bridio amrywiol a nodweddiadol o’r ardal, sy’n cynnwys grugieir coch. Mae’r rhywogaethau hyn yn defnyddio’r rhostir sych a’r cynefin gorgors ar gyfer nythu a bwydo’u cywion ifanc. Os ydy’r nythaid o grugieir coch yn cael eu haflonyddu, fel arfer maen nhw’n gwasgaru ac yn aml mae’r oedolyn yn gwahanu i ddilyn gwahanol gywion. Mae hyn yn eu gwneud yn agored i niwed.
‘Effaith andwyol’
Dywedodd Rhys Ellis, arweinydd tîm amgylchedd CNC ar gyfer Sir Ddinbych:
“Mae marwolaeth drist cyw grugiar ar ôl gwrthdrawiad amlwg â beiciwr heb awdurdod yn digwydd ar adeg pan fo natur eisoes yn wynebu nifer fawr o fygythiadau.
“Gall beicio anghyfreithlon oddi ar y ffordd gael effaith andwyol ar dirweddau ac achosi trallod i fywyd gwyllt a chymunedau lleol. Gall hefyd achosi canlyniadau pellgyrhaeddol i’r amgylchedd drwy darfu ar gynefinoedd sensitif.
“Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad hwn i ffonio’r heddlu a rhoi gwybod am faterion o’r fath ar 101 neu CNC ar 0300 065 3000.”
‘Beicio anghyfreithlon’
“Gofynnir i unrhyw un a welodd y digwyddiad hwn, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth, gysylltu â ni cyn gynted ag sydd bosibl,” meddai’r Rhingyll Peter Evans, Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru.
“Mae beicio anghyfreithlon oddi ar y ffordd mewn safleoedd gwarchodedig yn fater y mae’r Tîm Troseddau Gwledig a’i bartneriaid yn ei gymryd o ddifri, ac ni fydd yn cael ei oddef.
“Bydd patrolau eraill gan yr heddlu yn digwydd yn yr ardal fel rhan o’r Ymgyrch Dales a lansiwyd yn ddiweddar a lle mae swyddogion y Tîm Troseddau Gwledig yn targedu beiciau oddi ar y ffordd sy’n cael eu reidio yn anghyfreithlon ac yn wrthgymdeithasol mewn ardaloedd gwledig yn Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.”