Fe fydd cyn-Gadeirydd Plaid Cymru yn annerch cyfarfod fory i lansio mudiad newydd i ymgyrchu tros annibyniaeth i Gymru.
Mae John Dixon, a adawodd Blaid Cymru yn 2011 yn rhannol oherwydd ei diffyg ymgyrchu tros annibyniaeth, yn dweud ei fod yn “falch” o gymryd rhan yn rali YesCymru yng Nghaerdydd.
Nod y mudiad yw cynnal digwyddiadau i godi cefnogaeth i annibyniaeth, gan geisio dynwared llwyddiant mudiadau tebyg yng Nghatalwnia a’r Alban.
Siaradwyr o Gatalwnia a’r Alban
Fe fydd siaradwyr o’r ddwy wlad yn y rali yng nghanol Caerdydd – Liz Castro, awdures Saesneg o Farcelona sy’n amlwg yn y mudiad annibyniaeth yno, a Shona McAlpine, un o sylfaenwyr y mudiad Menywod tros Annibyniaeth yn yr Alban.
Fe fydd y gantores, Caryl Parry-Jones, hefyd yn cymryd rhan a’r bwriad, ar ôl y rali, yw cynnal cyfarfod blynyddol cynta’r mudiad.
“R’yn ni’n cydnabod na fydd hyn yn digwydd tros nos,” meddai un o sylfaenwyr YesCymru, Iestyn ap Rhobert. “Does dim ymgyrch annibyniaeth wedi bod yng Nghymru erioed a dyw’r ddadl ddim wedi’i rhoi.
“R’yn ni am geisio cywiro hynny.”
Rhagor am YesCymru yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos yma.