Mae Aelodau’r Senedd yn annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy i amddiffyn pobol rhag effeithiau cloddio ym Mhontypridd.

Fe wnaeth Heledd Fychan o Blaid Cymru godi pryderon am chwarel Craig-yr-Hesg ger Glyncoch ar gyrion Pontypridd yn y Senedd ddoe (dydd Mercher, Mehefin 26).

Mae hi’n cyhuddo’r datblygwyr Heidelberg Materials o dorri addewid i roi’r gorau i gloddio am gerrig yno erbyn Rhagfyr 22.

Dywed fod y cwmni wedi gwneud dau gais cynllunio i ymestyn y chwarel a’i hoes, ond eu bod nhw wedi cael eu gwrthod gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar ôl i fwy na 400 o bobol wrthwynebu.

“Roedd rhyddhad y gymuned yn amlwg,” meddai.

“Ond wnaeth hynny ddim para’n hir.”

‘Candryll’

Esboniodd Heledd Fychan, sy’n cynrychioli Canol De Cymru, fod y cwmni wedi apelio a bod Julie James, oedd yn Weinidog Newid Hinsawdd ar y pryd, wedi cymeradwyo’r cais.

“Dydy dweud bod trigolion yn gandryll ddim yn mynd yn ddigon pell,” meddai.

“Maen nhw’n torri’u calonnau gyda’r penderfyniad, ac yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i wrando ar eu pryderon a gweithredu i ddod ag oes y chwarel i ben.”

Dywed fod y chwarel, sy’n agos at dai, ysgol a chaeau chwarae, yn cymryd drosodd yr ardal a bod un stad lai na 200 metr i ffwrdd o’r estyniad arfaethedig.

“Unwaith yr wythnos, mae’r gymuned yn dioddef ffrwydradau ar y safle,” meddai.

“Am flynyddoedd, maen nhw wedi bod yn adrodd am effaith y ffrwydradau uchel.

“Maen nhw hefyd wedi dangos tystiolaeth sy’n awgrymu bod eu tai nhw’n ysgwyd ar ddiwrnodau ffrwydro, sy’n arwain at graciau yn waliau allanol a mewnol eu tai.”

Pryderon iechyd

Ychwanega Heledd Fychan fod llwch o’r ffrwydro’n bryder iechyd hirdymor.

“Gellir gweld cymylau mawr o lwch yn lledu dros y gymuned,” rhybuddia.

“Mae’n gadael ôl ar dai a cheir, ac mae trigolion y poeni bod y gronynnau yn y llwch yn risg i iechyd.”

Dyfynnodd hi Doug Williams, cynghorydd Glyncoch, sy’n dweud bod ansawdd aer gwael wedi arwain at lefelau uwch o ganser ac iechyd gwael yn ei ward.

Dywedodd hefyd fod ymestyn y chwarel yn effeithio ar fioamrywiaeth, wrth iddi alw am oedi’r cloddio er mwyn asesu’r effeithiau amgylcheddol ac iechyd.

“I nifer, gweld y ffensys yn cael eu codi oedd yr arwydd cyntaf bod y chwarel yn cael ei hymestyn,” meddai.

“Yn syml, mae’r gymuned wedi cael digon ac maen nhw eisiau gweld y chwarel yn cau; maen nhw’n poeni nad oes neb yn gwrando.”

Mae hi’n annog Llywodraeth Cymru i adolygu eu deddfwriaeth i sicrhau bod cwmnïau sy’n mwyngloddio yng Nghymru’n cael eu dal i’r safonau uchaf posib.

“Nid Glyncoch yw’r unig gymuned sydd yn y sefyllfa yma,” meddai.

“Mae yna gymunedau eraill sy’n cwffio brwydrau tebyg, ac eisiau gwybod os ydy’u tai nhw’n ddiogel.”

‘Rhy agos at drigolion’

Gan addo peidio â gorffwys nes bod y chwarel yn cau, dywed Vikki Howells, sy’n cynrychioli Cwm Cynon, ei bod hi wedi bod yn cydsefyll ag etholwyr ers iddi gael ei hethol yn 2016.

“Mae rheoliadau cynllunio’n dweud bod angen pellter o 200 medr rhwng tai a chwareli,” meddai’r Aelod Llafur.

“Ond mae’r estyniad yn golygu mai 142 metr fydd rhwng nifer o dai, a dim ond 109 metr rhwng y tŷ agosaf.”

Dywedodd wrth y Senedd fod pobol yn cael trafferth gwerthu eu tai, a bod Ysgol Gynradd Cefn 164 metr yn unig o’r safle.

“Mae’n amhosib i ni, i drigolion, ac i bwyllgor cynllunio Rhondda Cynon Taf, wnaeth wrthwynebu’r estyniad, ddirnad sut y gall hyn fod yn bellter addas,” meddai.

‘Colli tir a thai’

Mae Joel James, Aelod Ceidwadol o’r Senedd, hefyd yn rhannu siom y gymuned o ran ymestyn y chwarel.

“Dw i’n cydymdeimlo â’r trigolion yn y pentref,” meddai.

“Maen nhw wedi colli mynediad at dir, mae eu tai nhw’n cael eu dinistrio, alla i ddim dychmygu beth maen nhw’n ei anadlu.

“Dro ar ôl tro, rydyn ni’n sefyll yn y Siambr hon yn brwydro dros drigolion oherwydd does neb yn gwrando ar eu lleisiau…

“Y gwirionedd trist yw bod pobol Glyncoch yn cael eu siomi gan y sefydliad hwn a datganoli.

“Dyw e ddim wedi rhoi’r llais oedd addawyd iddyn nhw.”

‘Penderfyniad terfynol’

Wrth ymateb ar ran Llywodraeth Cymru, dywed Jane Hutt wrth y Siambr nad yw hi’n gallu gwneud sylwadau ar benderfyniadau apeliadau cynllunio penodol.

“Mae’r penderfyniad yn un terfynol,” meddai.

Dywed nad yw hi’n bosib trafod mwy ar benderfyniad unwaith mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi’i wneud, ac nad yw hi’n bosib ei herio ag arolygiad barnwrol yn y llysoedd ar ôl i chwe wythnos fynd heibio.