Mae parêd yn cael ei gynnal ar safle’r Llu Awyr yn y Fali ar Ynys Môn heddiw i goffáu y 75 mlynedd y bu’r lluoedd yn gwasanaethau yno.
Mae’r gwasanaeth achub mynydd bellach wedi cael ei breifateiddio, ac yn cael ei reoli gan gwmni Bristow Helicopters ar ôl iddyn nhw ennill y cytundeb gan yr Adran Drafnidiaeth yn 2013.
Cafodd yr uned ei ffurfio yn 1941 dan adain y Gyfarwyddiaeth Achub Môr o’r Awyr, a’i fandad oedd achub milwyr awyr yr Ail Ryfel Byd oedd yn mynd ar goll yn y moroedd o amgylch gwledydd Prydain.
Ers ei sefydlu, mae degau ar filoedd o fywydau wedi cael eu hachub gan ddynion a gwragedd y gwasanaeth, oedd yn gweithredu o longau, awyrennau a hoffrenyddion.
Bu’r Tywysog William yn gweithio ar y safle am dair blynedd rhwng 2010 a 2013, ac mae ef a’i wraig, Kate yn ymuno â’r cofio heddiw.