Mae dau o heddluoedd Cymru wedi clywed heddiw bod angen iddyn nhw wella eu perfformiad wrth leihau troseddau a chadw eu cymunedau’n ddiogel.
Cafodd Heddlu Dyfed Powys a Heddlu Gogledd Cymru ddyfarniad o ‘angen gwella’ gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi.
Roedd yr arolwg yn cynnwys pob un o heddluoedd Cymru a Lloegr a chafodd Heddluoedd De Cymru a Gwent ddyfarniad ‘Da’ – yr ail orau o bedwar categori.
Meysydd i’w gwella
Mae’r feirniadaeth ar heddluoedd y Gogledd a Dyfed-Powys yn debyg – problemau am fod swyddogion heb yr hyfforddiant priodol yn cael eu hanfon i ymchwilio i rai achosion ac angen gwell asesiad o risg pan fydd pobol yn cysylltu y tro cynta’.
Ond roedd y ddau heddlu wedi cael eu canmol am eu gwaith yn atal troseddau ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Yn ôl yr adroddiad ar Heddlu Dyfed-Powys:
- Doedd dim digon o gefnogaeth i bobol fregus y tu allan i oriau gwaith arferol.
- Doedd dim digon o ystyriaeth o’r dioddefwyr wrth benderfynu pa swyddogion i’w hanfon.
- Roedd cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig weithiau’n annigonol.
Yn ôl yr adroddiad ar Heddlu Gogledd Cymru:
- Roedd swyddogion weithiau’n cael eu hanfon i ymchwilio i droseddau oedd y tu hwnt i’w lefel hyfforddiant.
- Doedd dim digon o sylw i pa mor fregus oedd dioddefwyr wrth anfon swyddogion i ymchwilio, a hynny’n cynnwys achosion risg-uchel ym maes cam-drin domestig.
Yn ôl yr Arolygiaeth, roedd Heddlu Gwent wedi gwella o ran ymchwilio i droseddau a diogelu pobol fregus.
Roedd yna ganmoliaeth i Heddlu De Cymru am waith partneriaeth ond ychydig o feirniadaeth ar y ffordd o asesu peryg i ddioddefwyr adeg galwadau 999 ac 101.
‘Ymwybodol bod lle i wella’
Wrth ymateb i’r arolwg, dywedodd yr heddlu yn Nyfed Powys ei fod yn “ymwybodol bod lle i wella”, ond bod yr ardal yn parhau i fod yn un o’r rhai “mwyaf diogel” yng Nghymru a Lloegr.
“Rydym yn wasanaeth bach o gymharu â’r ardal ac yn ystod y cyfnod heriol yn ariannol hwn, rydym o hyd yn meddwl am ffyrdd arloesol o ddosrannu ein hadnoddau i ateb y galw,” meddai’r Dirprwy Prif Gwnstabl, Liane James, dros Heddlu Dyfed Powys.
Fe fyddai cael rhagor o blismyn yn gwneud gwahaniaeth mawr, meddai.
Fe ddywedodd Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, Winston Roddick, fod cynllun gwella eisoes ar droed.