Andrew R T Davies (Llun y Ceidwadwyr)
Mae Ceidwadwyr Cymru’n addo talu hyd at hanner rhenti myfyrwyr o Gymru, os byddan nhw’n llywodraethu ar ôl etholiadau mis Mai.
Mae’r blaid eisoes wedi dweud y byddan nhw’n diddymu’r drefn bresennol o dalu ffïoedd myfyrwyr gan ddweud y byddai’n well talu costau cynnal.
Yn ôl yr arweinydd, Andrew R T Davies, mae’r system ar hyn o bryd yn rhy ddrud ac mae costau cynnal a chadw yn fwy o broblem i fyfyrwyr.
Creu cronfa
Y syniad yw creu cronfa o £75 miliwn a fyddai’n talu hyd at hanner rhenti myfyrwyr o Gymru, mewn prifysgolion yma, neu yng ngweddill gwledydd Prydain.
Ond fyddai yna ddim arian i fyfyrwyr sy’n byw gartre’ – “eu dewis nhw yw hynny”, yn ôl Andrew Davies wrth Radio Wales.
Roedd cyfrannu at rent yn helpu myfyrwyr wrth iddyn nhw fynd, meddai, lle nad oedd angen talu ffïoedd yn ôl nes dechrau gweithio ac ennill cyflog.
Doedd diddymu cymorth ffïoedd yn Lloegr ddim wedi effeithio ar allu pobol ifanc o gefndiroedd tlotach rhag mynd i brifysgol, meddai.
- Fe fydd Ceidwadwyr Cymru hefyd yn cynnig trefn newydd o raddau dwy-flynedd.