Mae Age Cymru yn galw am fwy o gyllid i ddiwallu anghenion iechyd meddwl pobol hŷn, gan ddweud nad yw’r lefel bresennol yn ddigonol.

Daw hyn wrth i’r elusen ymateb i ymgynghoriadau gan Lywodraeth Cymru ar Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles Ddrafft 2024-2034 a Strategaeth Ddrafft Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed 2024-2034.

Mae’r elusen yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau gwell cefnogaeth cyllid cynaliadwy a digonol, nid yn unig ar gyfer cymorth iechyd meddwl statudol ond hefyd ar gyfer gwasanaethau sy’n sail i ansawdd bywyd da ar gyfer pobol hŷn, megis argaeledd gwasanaethau cyhoeddus, trafnidiaeth, mynediad at ofal cymdeithasol, a chymorth i ofalwyr hŷn.

Diffyg mynediad at gymorth

Yn ôl Heather Ferguson, Pennaeth Polisi Age Cymru, mae angen deall pam nad yw pobol hŷn yn cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

“Rydym yn croesawu’r ffaith bod pobol hŷn wedi’u nodi fel grŵp sydd angen cymorth penodol i amddiffyn eu hiechyd meddwl a’u lles yn yr ymgynghoriadau hyn, a gobeithiwn y bydd yn tynnu sylw at anghenion iechyd meddwl pobol hŷn yng Nghymru” meddai.

“Mae cymorth iechyd meddwl oedolion hŷn wedi cael ei anwybyddu ers blynyddoedd lawer, a gwyddom y gall pobol hŷn wynebu aml rwystr wrth geisio chwilio am gymorth.

“Wrth i ni heneiddio, mae ffactorau sy’n effeithio ar iechyd meddwl gwael yn cynyddu.

“Er enghraifft, yr hiraf yw bywyd unigolyn, y mwyaf tebygol ydyn nhw eu bod yn profi colled, gan fynd yn fwy ynysig ac unig yn gymdeithasol.”

Mae’r elusen hefyd yn galw ar y Llywodraeth i gefnogi brwydro yn erbyn agweddau cymdeithasol ar oedran tuag at iechyd meddwl, sy’n cymryd yn ganiataol mai rhan o heneiddio yn unig yw iechyd meddwl gwael.

Gall y stereoteipiau hyn arwain at ddiffyg ffocws ar wasanaethau iechyd meddwl i bobol hŷn, medden nhw, gan eu hatal rhag gofyn am gymorth mewn cyfnodau angenrheidiol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Rydym nawr yn ystyried yr holl ymatebion i’r ymgynghoriadau ar ein strategaeth iechyd meddwl ddrafft a’n strategaeth atal hunanladdiad, a gaeodd ddoe,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae’r strategaethau’n nodi ein gweledigaeth ar gyfer y deng mlynedd nesaf, gan gynnwys gwella mynediad at gymorth a gwasanaethau iechyd meddwl i bobol o bob oedran.”


Ffeithiau allweddol

  • Mae 22% o ddynion, a 28% o ddynion dros 65 oed, yn byw ag iselder
  • Mae 30% o ofalwyr hŷn yn profi iselder ar ryw adeg yn eu bywydau
  • Mae pobol hŷn sy’n wynebu profedigaeth bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu iselder na phobol eraill
  • Yn ôl arolwg cenedlaethol 2024 Age Cymru, mae pobol hŷn sydd â heriau corfforol a symudedd 70% yn fwy tebygol o brofi iechyd meddwl gwael
  • Mae 40% o bobol hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yn byw ag iselder.