Mae rhai o gyn-fyfyrwyr darlithydd yng Ngholeg Meirion Dwyfor yn cynnal taith gerdded er cof amdano.

Bu farw Rhodri Scott, cyn-ddarlithydd Chwaraeon, o fath prin o ganser Lymphoma ar Fawrth 22, ar ôl derbyn “y gofal gorau” yn Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd.

Cymerodd Adran Chwaraeon y coleg ym Mhwllheli ran mewn taith gerdded noddedig er cof amdano ddydd Llun (Mehefin 10), gan ddweud ei fod yn “athro caredig, gofalgar ac arbennig”.

Dechreuodd y daith gerdded ym Mhwllheli, gan anelu am Borth Neigwl ar hyd y llwybr arfordirol tua phymtheg milltir.

‘Chwip o athro anhygoel’

Dywed Ana Lois, un o’i fyfyrwyr, ar wefan codi arian Just Giving eu bod nhw “fel coleg wedi digalonni wrth glywed y newyddion ofnadwy” am golli Rhodri Scott.

“Roedd yn chwip o athro anghygoel ac roedd o hyd yn gwneud i bawb chwerthin hyd yn oed ar y dyddiau drwg,” meddai.

Mae’r adran wedi codi dros £1,300 erbyn hyn i gefnogi’r elusen Cancer Research.

“Rydym yn gweld colli Rhodri yn fawr,” meddai Bethan Lloyd Owen Hughes, Rheolwr Maes Rhaglen Addysg Gyffredinol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.

“Roedd ei ddawn fel darlithydd yn ysbrydoli pawb o’i gwmpas ac mae wedi gadael argraff enfawr ar bawb gafodd y fraint o’i adnabod a’i gael fel darlithydd.”