Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n galw am gymryd camau i fynd i’r afael â hiliaeth mewn ysgolion.
Daw hyn ar ôl i Gais Rhyddid Gwybodaeth ddatgelu bod 174 o waharddiadau o ysgolion Cymru yn ystod y flwyddyn academaidd 2018-19.
Mae Jane Dodds, arweinydd y blaid, yn galw am sefydlu “system gynhwysfawr” i olrhain patrymau o ragfarn ac arolygu ysgolion sydd â lefelau uchel o waharddiadau.
‘Mwy o waith i’w wneud’
Er bod “peth cynnydd” wedi’i wneud, dywed Jane Dodds fod pobol o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn dal ar ei hôl hi yn y gymdeithas pan ddaw i dai, addysg, cyflogaeth a gofal iechyd.
“Mae newidiadau positif wedi’u nodi mewn rhai meysydd, ond mae hunanfodlonrwydd yn elyn i gynnydd, ac mae mwy o waith i’w wneud eto,” meddai.
“Mae’r sector addysg yn dal yn gefnlen hanfodol yn y frwydr yn erbyn anghydraddoldeb hiliol, ac mae angen gwneud mwy i fynd i’r afael â sut ddylai ysgolion ymdrin ag achosion hiliol.
“Mae meddyliau ein plant yn dir ffrwythlon, ac allwn ni ddim eu hesgeuluso nhw drwy eu galluogi nhw i weld ymddygiad gwarthus megis bwlio neu aflonyddu hiliol fel norm.”