Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi dweud ei bod yn croesawu bil newydd a fydd yn diogelu rhai o adeiladu mwyaf hynafol y genedl.

Dywedodd yr Eglwys, sy’n berchen ar 1,352 o eglwysi yng Nghymru, ei bod yn gobeithio elwa ar Fil Amgylchedd Hanesyddol Cymru, er mwyn sicrhau nad yw rhai o adeiladau hynaf Cymru yn mynd yn angof.

Cafodd y ddeddfwriaeth newydd ei phasio yn y Cynulliad yr wythnos ddiwethaf, a’i bwriad yw cyflwyno mesurau newydd i ddiogelu adeiladu treftadaeth y genedl, sy’n cynnwys eglwysi a chofebion hanesyddol mewn mynwentydd.

Yn ôl yr Eglwys, mae ganddi 147 o adeiladau cofrestredig Gradd 1 dan ei hadain, sy’n cynnwys chwech Eglwys Gadeiriol.

Y wlad gyntaf

Pan ddaw’n gyfraith y mis nesaf, mae’n golygu mai Cymru fyddai’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i roi manylion am yr amgylchedd hanesyddol ar gofnod statudol. Bydd y cofnodion hefyd yn darparu mynediad at restr newydd o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru.

“Rydym yn llongyfarch Llywodraeth Cymru ar gwblhau’r Bil hwn,” meddai Alex Glanville, pennaeth gwasanaethau eiddo yr Eglwys yng Nghymru.

“Mae’r gwaith ymgynghori a pharatoi wedi bod yn rhagorol ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r llywodraeth ar agweddau ar y Bil – yn enwedig canllawiau pellach ar adeiladau eglwysig a’r Fforwm Addoli o Enwau Lleoedd, sydd newydd ei ffurfio.”

Beirniadaeth

Er y croeso, mae’r bil wedi cael ei feirniadu gan eraill, gyda Chymdeithas Enwau Lleoedd Cymru yn dweud ei fod yn “anwybyddu’r angen am ddiogelu yn statudol mân enwau ar lawr gwlad”.

Mae eisoes brosiect cenedlaethol yn digwydd ar y cyd rhwng Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cofnodi holl fân enwau Cymru.