Mae cynllun newydd wedi derbyn cyllid gwerth £1.2 miliwn gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu ymchwil, addysg a thechnolegau ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn ne a gorllewin Cymru.

Enw’r cynllun yw ARCH, ac mae’n bartneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe a Byrddau Iechyd Hywel Dda ac Abertawe Bro Morgannwg. Mae hefyd yn cynnwys cynrychiolaeth o’r awdurdodau lleol.

Fe fydd y sefydliadau yn cydweithio i ddatblygu gwasanaethau newydd ar draws sir Benfro, Ceredigion, sir Gâr, Abertawe, Port Talbot a Chastell Nedd a Phen-y-bont ar Ogwr.

Y bwriad yw dod â’r gwasanaeth iechyd yn nes at gartrefi pobol, gan osgoi troi at ysbytai pan nad oes rhaid.

‘Arloesedd’

“Mae’r gefnogaeth arwyddocaol yma gan Lywodraeth Cymru yn arddangos yr hyder a’r gred yn ethos a gwaith ARCH,” meddai’r Athro Andrew Davies, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Fe esboniodd y bydd ARCH hefyd yn rhoi hwb i’r economi leol drwy greu swyddi newydd yn ne a gorllewin Cymru.

“Fe fydd hefyd yn arwain y ffordd mewn ymchwil ac arloesedd drwy gynorthwyo i ddatblygu technoleg a thriniaethau newydd, a fydd yn fantais go iawn i’n cleifion.”

‘Technolegau newydd’

 

“Rwy’n croesawu ymrwymiad y byrddau iechyd i arwain y cydweithrediad hwn, gan weithio’n agos â’r brifysgol a phartneriaid yr awdurdod lleol,” meddai Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Fe esboniodd y bydd cynllun ARCH yn sicrhau datblygiad a fydd yn “integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal, drwy ddefnyddio technolegau a gwasanaethau newydd i wella mynediad at wasanaethau gofal.”

“Mae’n bersonol i bob claf ac fe fydd ar gael mewn amser a lleoliad sy’n gyfleus iddyn nhw yn y rhanbarth.”