David Cameron
Fe fydd David Cameron yn teithio i Frwsel heddiw ar gyfer uwch-gynhadledd dyngedfennol lle mae’n gobeithio ennill cefnogaeth i’w gynlluniau i ddiwygio aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd (UE)  fel y gall gynnal refferendwm ym mis Mehefin.

Ddoe, fe fu’r Prif Weinidog yn cwrdd ag Arlywydd Ffrainc Francois Hollande i drafod pryderon ynglŷn â diogelu gwledydd sydd ddim yn rhan o barth yr ewro a thriniaeth arbennig i Ddinas Llundain.

Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street bod y trafodaethau wedi bod yn “adeiladol” a bod y cynlluniau drafft gan y Cyngor Ewropeaidd “yn rhoi sail gadarn i ddod i gytundeb yn yr uwch-gynhadledd yr wythnos hon.”

Feto

Fe fydd David Cameron yn cynnal trafodaethau ym Mrwsel gyda rhai Aelodau Seneddol Ewropeaidd heddiw ond mae ’na rybudd y gall y Senedd Ewropeaidd roi feto ar rai agweddau o’r cytundeb ar ôl y refferendwm.

Ond mae Downing Street yn mynnu y bydd yn “ddogfen gyfreithiol o dan gyfraith ryngwladol.”

‘Bregus iawn’

Ddoe, fe rybuddiodd llywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk bod trafodaethau David Cameron yn “parhau’n fregus iawn” ac oni bai eu bod yn cael eu trin yn ofalus, fe allai arwain at chwalu’r undeb.

Mae Donald Tusk ar wibdaith i rai o brifddinasoedd yr UE, gan gynnwys Berlin, Paris ac Athen, er mwyn cyflwyno’r pecyn o ddiwygiadau a luniodd mewn ymateb i alwadau David Cameron i gyflwyno newidiadau.

Y diwygiadau sydd ar frig agenda’r trafodaethau rhwng 28 o arweinwyr yr UE yn yr uwch-gynhadledd ym Mrwsel sy’n dechrau ddydd Iau.

Mae disgwyl i’r trafodaethau gael eu cwblhau erbyn amser cinio ddydd Gwener ac fe fydd  David Cameron yn galw am gyfarfod brys o’i Gabinet os yw’n sicrhau cytundeb.