Y clogwyni ger Santes Ann, yn agos i ble ddigwyddodd damwain y Sea Empress (llun: Jacqui Sadler/CC2.0)
Mae’n union ugain mlynedd ers i un o’r trychinebau amgylcheddol gwaethaf daro arfordiroedd Prydain.
Collwyd 72,000 tunnell o olew ar hyd arfordir sir Benfro ar 15 Chwefror 1996 pan aeth llong y Sea Empress i drafferth.
Roedd y llong yn cario 130,000 tunnell o olew ac yn ceisio cyrraedd porthladd Aberdaugleddau, ond fe’i daliwyd ar greigiau penrhyn Santes Ann.
Bu farw miloedd o adar yn sgil y llygredd ac, yn ôl arbenigwyr yr amgylchedd, fe gymerodd hi 10 mlynedd i ecoleg yr arfordir ddychwelyd yn ôl i’w arfer.
‘Traethau melyn mewn olew du’
Roedd yr effaith i’w deimlo ar ddiwydiannau eraill hefyd, gan gynnwys pysgotwyr a thwristiaeth.
Fe gostiodd £60 miliwn i lanhau’r llanast wedi i’r olew ledu ar hyd 120 milltir o’r arfordir.
“Dw i’n cofio gweld pobol yn crio wrth weld y traethau melyn yn cael eu trochi gan olew du ac wrth weld ymdrech druenus adar y môr wrth geisio codi allan ohono,” meddai Gordon James, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru ar y pryd.
Esboniodd fod y mudiad hwnnw a’r bobol leol wedi dod ynghyd mewn ymdrech fawr i achub cymaint o’r adar ag oedd yn bosibl, ac roedd “cyfryngau’r byd yn gohebu yno.”
‘Lwcus iawn’
Dywedodd fod Cyfeillion y Ddaear wedi casglu gwybodaeth am effaith y trychineb a’i gyflwyno mewn adroddiad i Asiantaeth yr Amgylchedd.
Fe esboniodd y gallai’r sefyllfa fod wedi bod yn llawer gwaeth, oherwydd roedd gwynt y gogledd wedi chwythu’r rhan fwyaf o’r olew i’r môr gyda 40% o hwnnw’n anweddu.
Nid oedd llawer o rywogaethau’r adar wedi dychwelyd i’r ardal i fagu bryd hynny chwaith.
“Oeddem, roeddem ni’n lwcus iawn, ond petai’r rheiny sydd â’r wybodaeth orau am gludo tanceri i mewn ac allan o’r porthladdoedd wedi cael eu clywed – efallai na fyddai’r trychineb byth wedi digwydd,” ychwanegodd.
Cynllun Morol Cenedlaethol
Mae llefarydd ar ran WWF Cymru wedi dweud fod angen gwneud mwy i warchod asedau naturiol Cymru.
“Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru sydd ar ddod yn cynnig cyfle i reoli’n strategol y gweithgareddau hynny a allai effeithio ar asedau naturiol Cymru,” meddai Lyndsey Dodds, Pennaeth Polisi Morol WWF.
Mae’r cynllun morol yn parhau mewn proses ymgynghori ar hyn o bryd.
Dywedodd Lyndsey Dodds y dylai gynnwys “darpariaethau sy’n sicrhau y lleddfir y peryglon y mae llygredd damweiniol ac affwysol yn eu cynrychioli i’r ardaloedd mwyaf sensitif”.
Ychwanegodd hefyd fod “dyfroedd Cymru yn fwy prysur nag erioed ond mae rheolaeth dal yn dameidiog.”