Gweithwyr dur yn protestio tu allan i safle'r Comisiwn Ewropeaidd ym Mrwsel
Mae rheolwyr cwmnïau dur wedi ymuno â miloedd o’u gweithwyr o bob rhan o’r Undeb Ewropeaidd (UE) ym Mrwsel i brotestio yn erbyn mewnforio dur rhad o Tsieina.

Mae cannoedd o weithwyr o Gymru a’r DU ymysg y rhai sy’n pwyso ar y Comisiwn Ewropeaidd i fynd i’r afael â’r broblem o ddur rhad o Tsieina sy’n boddi’r farchnad yn Ewrop.

Mae’r diwydiant dur Ewropeaidd yn cyhuddo Tsieina o gynnig cymorthdaliadau allforio anghyfreithlon a gwerthu dur yn is na’r gost cynhyrchu, gan gyfrannu at yr argyfwng yn y sector dur yn Ewrop.

Mae Karl Koehler, prif weithredwr Tata Steel Ewrop yn gorymdeithio ochr yn ochr â gweithwyr o ffatrïoedd y cwmni yn y DU, gan gynnwys Port Talbot lle mae 750 yn wynebu colli eu swyddi.

Mae gweithwyr wedi amgylchynu rhai o sefydliadau’r UE er mwyn amlygu eu gofynion i gadw dur Tseiniaidd draw o’r farchnad Ewropeaidd.

‘Statws economi marchnad’

Mae’r diwydiant yn dadlau, pe byddai’r UE yn cydnabod Tsieina fel economi marchnad, statws a fyddai’n caniatáu’r wlad i allforio hyd yn oed mwy o ddur i mewn i Ewrop, byddai degau o filoedd o swyddi yn y fantol.

Ar hyn o bryd, mae gan yr UE 37 o gamau masnach a chyfreithiol i wneud yn siŵr bod mewnforio dur yn deg ac yn darparu ar gyfer chwarae teg – rhywbeth sydd yn arbennig o bwysig mewn oes o or-gynhyrchu a boddi’r marchnadoedd Ewropeaidd.

Os fyddai Tsieina yn cael ei chydnabod fel economi marchnad, byddai hyd yn oed yn fwy anodd i weithredu yn erbyn masnachu sy’n cael ei ystyried yn annheg.

Mae’r sector dur Ewropeaidd yn cyflogi tua 330,000 o bobl – ond mae’r diwydiant yn dweud y byddai cannoedd o filoedd o swyddi eraill hefyd mewn perygl yn y meysydd cerameg, gwydr, paneli solar a sectorau eraill.

‘Ysbryd angerddol’

Dywedodd Karl Koehler fod y diwydiant dur mewn perygl o ddiflannu yn Ewrop os nad yw’r Comisiwn Ewropeaidd yn “cymryd camau cadarn ar unwaith.”

Meddai: “Roeddwn yn falch iawn o brofi ysbryd angerddol ein cydweithwyr yn ystod y brotest.

“Ynghyd â’n cymheiriaid yn y diwydiant dur, rydym yn dweud wrth arweinwyr Ewropeaidd yn uchel a chlir i atal y llanw o fasnachu annheg sy’n bygwth ein swyddi, ein diwydiant a’n dyfodol.

“Mae’r diwydiant dur Ewropeaidd mewn brwydr ffyrnig i sicrhau ei ddyfodol ac yn erbyn arferion masnachu annheg – yn bennaf gan Tsieina a Rwsia – sydd wedi gwthio prisiau dur i’w lefelau isaf erioed.

“Os nad yw’r Comisiwn Ewropeaidd yn cymryd camau cadarn ar unwaith fe fydd miloedd o swyddi yn y diwydiant, a miloedd o swyddi eraill sy’n gysylltiedig â’r diwydiant, dan fygythiad.”

‘Angen gweithredu’

Dywedodd Gweinidog Busnes Llywodraeth y DU, Anna Soubry, fod y Llywodraeth yn ymwybodol iawn o’r heriau sy’n wynebu’r diwydiant dur ac yn gweithio “ddiflino” i’w helpu.

Mae undebau GMB, Unite a Community hefyd wedi ymuno â’r brotest heddiw i alw am weithredu yn hytrach na chyfarfodydd diddiwedd.

Dywedodd swyddog cenedlaethol GMB, Dave Hulse: “Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi gwneud y nesaf peth at ddim i achub swyddi dur.

“Mae angen i’r Prif Weinidog ddringo oddi ar y ffens a dweud wrth Frwsel bod angen camau i helpu’r diwydiant dur yn y DU.”

Mae cynghrair Aegis, sy’n cynnwys nifer o ddiwydiannau Ewropeaidd o bwys, yn dweud bod tri chwarter o’r holl fesurau i atal boddi’r farchnad Ewropeaidd yn cynnwys Tsieina a bod y cwynion am Beijing yn cynyddu.

Meddai llefarydd ar ran Aegis: “Byddai statws economi farchnad i Tsieina yn drwydded lawn i foddi’r farchnad ac mae Tsieina yn awyddus i wneud hynny ym mhob sector.”

‘Codi pryderon yn angerddol’

Yn dilyn y brotest, fe ddywedodd Gweinidog Busnes Llywodraeth Prydain, Anna Soubry ei bod wedi bod yn “ddiwrnod da i glywed gan benaethiaid y diwydiannau yn Ewrop gan godi pryderon yn angerddol ac yn uniongyrchol i’r Comisiwn Ewropeaidd.”

“O gymharu â’r Unol Daleithiau, mae ymchwiliadau dympio’r UE yn cymryd rhy hir, ac roedd cytundeb eang heddiw i’r DU wthio am ymchwiliadau cynt gan y Comisiwn.

“Rydym angen sicrhau y gall Ewrop fod yn ddiwydiannol gystadleuol, yn enwedig mewn prisiau ynni. Mae’r DU wedi cymryd yr awenau drwy gyhoeddi y bydd Diwydiannau Ynni Dwys yn cael eu hesgusodi rhag costau polisïau adnewyddadwy,” meddai Anna Soubry.