Mae’r sylwebydd gwleidyddol Theo Davies-Lewis yn dweud bod y sgandalau ynghylch Prif Weinidog Cymru’n “wenwynig” i Lafur Cymru, ac yn “gyfle” i’r gwrthbleidiau ar drothwy etholiadau’r Senedd yn 2026.

Er nad yw’n disgwyl i Vaughan Gething orfod ymddiswyddo yn yr un modd ag y bu’n rhaid i Humza Yousaf, Prif Weinidog yr Alban, dydi o ddim yn gwadu bod yn sefyllfa yn un anodd iawn i’r Prif Weinidog.

“Mae’r sefyllfa yn un anodd i Vaughan Gething, ond hefyd i’r meinciau cefn, achos dydyn nhw ddim wir yn gallu dweud unrhyw beth, ond dwi’n gwybod eu bod nhw’n anhapus yn gyffredinol,” meddai wrth golwg360.

“Dwi’n credu’i fod e’n gymysgedd eithaf gwenwynig ar hyn o bryd.

“Mae’n sefyllfa gymhleth os dydy e ddim yn gallu pwyntio at unrhyw fath o arian neu brosiectau, oherwydd i gyd mae e’n dweud ydy does yna ddim digon arian i wneud dim byd.”

Cymeriad y Prif Weinidog yn “broblem”

Yn ôl Theo Davies-Lewis, mae’r stori oedd wedi torri’n ddiweddar fod Vaughan Gething wedi dweud yn ystod y cyfnod clo ei fod yn dileu negeseuon fel na fydden nhw’n dod yn gyhoeddus o dan Gais Rhyddid Gwybodaeth, yn fater “rhyfedd”.

“Mae’r mater yn llusgo tipyn bach,” meddai.

“I gyd rydyn ni’n cael ydy stori ar ôl stori am gymeriad y Prif Weinidog, sydd yn rhyfedd iawn o fewn gwleidyddiaeth Gymreig.

“Yng Nghymru, rydym yn hoffi edrych ar ein gwleidyddion ym Mae Caerdydd fel eu bod nhw rywsut yn wahanol i beth rydych yn ei gael yn San Steffan.

“Ond wrth gwrs, dydy hynny ddim yn wir. Pobol arferol ydyn nhw, rhan fwyaf o’r amser.

“Dwi’n meddwl bod gennym ni sefyllfa lle mae’r Prif Weinidog sydd wedi cael ei ethol yn fewnol efo cymeriad sydd efallai yn wahanol i Mark Drakeford, Rhodri Morgan a Carwyn Jones, ac efallai ddim yn yr un fath o fowld â nhw fel person.

“Dwi’n credu bod yr arian ddaru e dderbyn yn y ras ar gyfer yr arweinyddiaeth yn dangos hyn.”

Cyfnod aneswmwyth ar y gorwel

Er nad yw’n credu y bydd Vaughan Gething yn syrthio ar ei fai, mae’n rhagweld cyfnod anesmwyth rhwng y ddau sefydliad ar naill ochr i’r M4 a’r llall.

“Rydych yn gallu gweld sut mae gwrthbleidiau yn edrych ar y sefyllfa yma, ac yn gallu creu darlun o ddyn dros ddwy flynedd, ac wedyn dod i etholiad Senedd 2026 lle mae llywodraeth fwyafrifol Llafur yn San Steffan, ac arweinydd ym Mae Caerdydd sy’n eithaf amhoblogaidd,” meddai.

“Mae hyn yn gymysgedd cymhleth iawn.

“Mae Cymru’n aml yn cael ei defnyddio gan Geidwadwyr yn San Steffan i dynnu sylw at record Llywodraeth Lafur ar wasanaethau cyhoedd, megis iechyd.

“Os dydy Vaughan Gething ddim yn troi lot o’r mesurau polisi sydd yn bwysig o gwmpas, ac mae’r sylw’n dal ar ei gymeriad a’r egwyddorion tu ôl i’w benderfyniadau, dw i’n siŵr fydd Keir Starmer yn becso ychydig yn y dyfodol.

“Y rheswm fydd e ddim am golli unrhyw gwsg ydy’r ffaith fod e ddim yn mynd i golli unrhyw seddi yng Nghymru tuag at etholiad cyffredinol.”

Vaughan Gething o gymharu â Mark Drakeford

Mater arall yw proffil y Prif Weinidog presennol o gymharu â phroffil ei ragflaenydd, oedd wedi bod yn flaenllaw iawn wrth arwain Cymru drwy’r pandemig Covid-19.

Ond mae Theo Davies-Lewis yn credu, pe bai Keir Starmer a’r Blaid Lafur yn ennill yn yr etholiad nesaf, y byddai Llywodraeth Cymru’n gallu achosi pen tost i Keir Starmer.

“Dw i’n siŵr fydd e’n edrych ar y sefyllfa fwy ar berfformiad y llywodraeth yn nhermau gwasanaethau cyhoeddus, a hefyd sut i helpu’r llywodraeth ym Mae Caerdydd, oherwydd mae’n amlwg bod angen help arnyn nhw i redeg y gwasanaethau i’r lefel mae’r etholwyr yng Nghymru yn disgwyl,” meddai.

Yn sgil hyn â’r newidiadau i’r system etholaethol o ganlyniad i Bil Diwygio’r Senedd gafodd ei gymeradwyo ddoe (dydd Mercher, Mai 8), mae’n credu bod cyfle i’r gwrthbleidiau ym Mae Caerdydd daro’n ôl.

“Y cwestiwn ydy, a yw etholwyr yng Nghymru yn mynd i ganiatáu’r Blaid Lafur yng Nghymru gyda Vaughan Gething fel Prif Weinidog?

“Dwi ddim yn siŵr i fod yn onest, a dw i’n credu bod yna gyfle i Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr gymryd mantais.”