Ymateb cymysg sydd ymhlith y gwrthbleidiau i’r ddeddfwriaeth fydd yn gweld y Senedd yn ehangu o 60 aelod i 96.
Cafodd y bil ei gyflwyno gan Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru, a chafodd ei basio o 43 pleidlais i 16.
Bydd yr Aelodau’n cael eu hethol drwy restrau cyfrannol caeëedig, gyda’r seddi’n cael eu dyrannu i’r pleidiau gan ddefnyddio’r fformiwla d’Hondt.
Bydd 32 o etholaethau newydd San Steffan yn cael eu paru i greu 16 o etholaethau yn y Senedd o 2026, gyda phob etholaeth yn ethol chwe aelod yr un.
Bydd etholiadau’n cael eu cynnal bob pedair blynedd o 2026.
Bydd uchafswm y gweinidogion yn Llywodraeth Cymru’n cynyddu o 12 i 17, ynghyd â’r Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol, a bydd ganddyn nhw rymoedd ychwanegol i gynyddu’r nifer ymhellach i 18 neu 19 gyda chymeradwyaeth y Senedd.
Bydd modd ethol dau Ddirprwy Lywydd hefyd, yn hytrach nag un.
Bydd rhaid i bob ymgeisydd ar gyfer etholiadau’r Senedd fyw yng Nghymru yn y dyfodol, a bydd modd ystyried rhannu swyddi.
Senedd “gryfach a thecach”
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, bydd y newidiadau’n arwain at Senedd “gryfach a thecach” ac un sy’n “ffit i’r unfed ganrif ar hugain”.
“Wrth baratoi’r ffordd ar gyfer Senedd sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, rydym wedi creu sylfaen newydd i adeiladu Cymru decach ac i baratoi ein gwlad ar gyfer newid gwleidyddol a chyfansoddiadol yn y dyfodol,” meddai.
“Mae Senedd well ar gyfer holl bobol Cymru – o Fon i Fynwy.
“Mae’n cynrychioli newid sylweddol mewn datganoli wrth i ni symud ymlaen i’w hail chwarter canrif.
“Rhaid inni feithrin a diogelu ein Senedd newydd ar y cyd.
“Mae diogelu datganoli yn golygu buddsoddi ynddo – a mynnu adenillion ar y buddsoddiad hwnnw, mewn craffu gwell, deddfau gwell, gwell gwariant cyhoeddus, a chanlyniadau.
“Rydym yn gwneud penderfyniadau heddiw i wneud yn siŵr nad yw pobol Cymru yn colli allan yn ddemocrataidd o gymharu â Seneddau cenedlaethol eraill yn yr ynysoedd hyn.
“I’r rhai sy’n fodlon – am y tro – â sicrhau craffu gwell, dwyn y Llywodraeth i gyfrif yn well, polisiau gwell, a gwell craffu ar benderfyniadau, yna bydd gennym yma y gallu i wneud hynny’n effeithiol ar ran pobol Cymru.
“I’r rhai sydd am wthio ymhellach, rydym wedi creu llwyfan ar gyfer hynny heno.”
‘Cam positif’
Mae’r newidiadau wedi cael eu disgrifio fel “cam positif” gan Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
Ond mae hi’n rhybuddio bod “gwaith i’w wneud o hyd”, gan ychwanegu bod rhestrau caeëedig “mewn perygl o ddwyn gwir ddewis oddi ar bleidleiswyr”.
Mae’r blaid hefyd yn feirniadol o’r drefn o baru etholaethau.
“Mae hwn yn gam positif ar yr hyn fydd yn daith fuddiol i bawb ohonom,” meddai Jane Dodds.
“Fodd bynnag, mae gwaith i’w wneud o hyd.
“Yn anffodus, mae diffygion sylfaenol yn y Bil Diwygio fel ag y mae.”
Dywed fod y rhestrau caeëedig hefyd yn tawelu lleisiau’r pleidiau bychain, ac y bydd paru etholaethau’n “tanseilio’r cyswllt hanfodol o ran atebolrwydd rhwng Aelodau’r Senedd a’r rheiny maen nhw’n eu cynrychioli”.
Dywed y dylid cyflwyno’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy er mwyn “sicrhau bod pob pleidlais wedi’u pwyso’n gyfartal”.
Ychwanega mai’r “eiliad hon yw’r gyntaf mewn cyfres o nifer ar ein taith ddemocrataidd”.
‘Y peth diwethaf sydd ei angen ar Gymru’
Fe fu Andrew RT Davies dipyn yn fwy chwyrn ei feirniadaeth, gan ddweud mai mwy o Aelodau yn y Senedd yw’r “peth diwethaf sydd ei angen ar Gymru”.
“Gyda rhestrau aros cynyddol Llafur, canlyniadau addysg yn gostwng, a niferoedd diweithdra’n chwalu, mae penderfyniad Llafur a Plaid Cymru’n dangos eu bod nhw wedi colli gafael,” meddai.
Dywed y byddai ei blaid yn dileu’r Aelodau ychwanegol yn y Senedd, ac yn gwario’r arian ar wasanaethau cyhoeddus.