Mae Cyngor Sir Powys yn gwrthod rhoi cludiant i fachgen i’r un ysgol â’i frodyr, medd rhiant o Lanwddyn.

Mae Edward, mab ieuengaf Hâf a Barry Williams, wedi cael lle yn Ysgol Pennant ym Mhen-y-bont-fawr ar gyfer mis Medi, ond dydy’r Cyngor Sir ddim yn cynnig ei ddanfon yno, er eu bod nhw eisoes yn darparu bws mini yno i’w frodyr.

Yn ôl Hâf Williams, mae Cyngor Sir Powys yn cynnig cludiant i Ysgol Cwm Banwy, gan mai honno yw’r ysgol agosaf.

Er bod Ysgol Cwm Banwy yn Llangadfan ychydig yn llai na milltir a hanner yn nes nag Ysgol Pennant fel yr hed y frân, dydy hi ddim yn nalgylch Llanwddyn.

Yn ôl Cyngor Sir Powys, i fod yn gymwys am drafnidiaeth ysgol am ddim, rhaid i ysgol neu ysgol ddalgylch agosaf y dysgwyr fod yr un agosaf at gyfeiriad cartref y plentyn.

“Pan wnaethon ni ofyn pam bod Ed methu mynd ar y bws mini, fe wnaethon nhw ddweud achos bod Ysgol Cwm Banwy yn agosach i ni,” meddai Hâf Williams wrth golwg360.

“Ond, mae Ysgol Cwm Banwy yn nalgylch Llanfair, rydyn ni yn Llanwddyn, does gennym ni ddim cefndir na chysylltiad i Ysgol Cwm Banwy.

“Mae Ysgol Cwm Banwy 8.6 milltir i ffwrdd ohonom ni, Pennant yn ddeng milltir, ond mae o’n hollol wirion, yr holl beth.”

Edward gyda’i rieni, Hâf a Barry

‘Dim syniad’

Ychwanega Hâf Williams ei bod hi’n poeni sut y gallai’r sefyllfa effeithio ar Edward neu’r teulu a’u gwaith os oes rhaid iddi hi neu ei gŵr ddanfon y plant i’r ysgol bob dydd.

“Dw i methu gwneud y school run bob diwrnod, rydyn ni’n byw ddeng milltir o Ysgol Pennant ac maen nhw wastad yn cael trafnidiaeth yno,” meddai wedyn.

“Dw i’n mynd o ‘nghof, pam eu bod nhw wedi dweud ’na’ efo Ed?

“Mae Gruff ym Mlwyddyn 3 a Huw ym Mlwyddyn 1; maen nhw’n mynd i ddefnyddio’r bws mini am ychydig o flynyddoedd, felly pam ’na’ efo Ed?

“Dw i’n sicr bo nhw jyst ddim yn adnabod yr ardal, does ganddyn nhw ddim syniad.”

Daw hyn wedi i deulu o Groesoswallt gael gwybod gan Gyngor Sir Powys fod lle i’w mab mewn ysgol Gymraeg wedi’r cyfan, ar ôl iddo gael gwrthod lle yn wreiddiol gan fod mwy o geisiadau nag o lefydd wedi dod i law.

Hâf Williams a’r teulu

Mae teulu Edward wedi apelio’r penderfyniad, ond wedi cael gwybod gan Gyngor Sir Powys y bydd yn rhaid iddyn nhw aros tan Fai 17 i gael ateb.

“Pam ydyn ni’n gorfod aros dros dair wythnos am benderfyniad reit syml?

“Ddylen nhw heb fod wedi gwneud penderfyniad fel hyn ers y cychwyn.

“Dw i a Barry, fy ngŵr, yn meddwl mai [Ysgol Pennant] ydy’r lle gorau iddo fo, ac mae Powys yn meddwl eu bod nhw’n gwybod yn well… ond dydyn nhw ddim o gwbl.

“Doedd cael mewn [i’r ysgol] ddim yn broblem; maen nhw wedi gwneud trafferth am ddim byd.”

‘Dilyn polisi’

Yn ôl Cyngor Sir Powys, i fod yn gymwys am gludiant o’r cartref i’r ysgol am ddim, rhaid i ysgol neu ysgol ddalgylch agosaf y dysgwyr fod yr un agosaf at gyfeiriad cartref y dysgwr, ac yn fwy na dwy filltir o’r cartref yn achos ysgolion cynradd a thair milltir i ysgolion uwchradd.

“Penderfynir a oes hawl gan ddysgwr i gludiant am ddim i’r ysgol gan y polisi Cludiant rhwng y Cartref a’r Ysgol ac mae’r polisi diweddaraf wedi bod ar waith ers 2022,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys:

“Mae’r polisi hwn hefyd yn bodloni gofynion Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.

“Mae’r polisi’n nodi y bydd cludiant o’r cartref i’r ysgol yn cael ei ddarparu i ddysgwyr sydd fel arfer yn byw ym Mhowys fynychu eu hysgol addas neu’r ysgol ddalgylch agosaf (ystyr ’dalgylch’ yw’r ysgol agosaf o fewn ardal ddaearyddol).

“Penderfynir ar yr hawl i gludiant am ddim i’r ysgol gan y cyngor trwy ddilyn y Polisi Cludiant rhwng y Cartref a’r Ysgol.

“Pan fydd cais yn cael ei wrthod, bydd rhieni/gwarcheidwaid yn cael gwybod am y rheswm dros beidio â dyfarnu cludiant am ddim.

“Os nad yw rhiant/gwarcheidwad yn fodlon â’r penderfyniad, gallant ei herio gan ddefnyddio’r broses apelio a amlinellir yn y Polisi Cludiant rhwng y Cartref a’r Ysgol.

“Cyn mynd â chais a wrthodwyd yn syth at apêl, mae croeso i rieni gysylltu â’r Rheolwr Cludiant Teithwyr i drafod eu pryderon.”

“Balch” bod lle i blentyn mewn ysgol Gymraeg, ond yr ymgyrch yn parhau

Cadi Dafydd

“Mae hi’n ymgyrch ehangach o ran sicrhau mynediad teg at addysg ddwyieithog tu allan i Gymru,” medd Lowri Jones