Carwyn Jones (Llun Cynulliad)
Mae Prif Weinidog Cymru wedi ychwanegu’i lais at y galwadau i ddoctoriaid iau adael Lloegr a dod i Gymru.
Fe fyddai croeso cynnes iddyn nhw, meddai Carwyn Jones, ar y rhaglen deledu Question Time neithiwr, gan addo y byddai Llywodraeth Cymru’n trafod yn iawn gyda nhw am amodau gwaith.
Fe fydden nhw’n cael eu “parchu”, meddai, gan addo na fyddai Cymru’n wynebu’r “anhrefn” sydd yn Lloegr wrth i ddoctoriaid iau streicio yn erbyn bwriad Llywodraeth Prydain i orfodi cytundeb newydd arnyn nhw.
Roedd Plaid Cymru eisoes wedi gwneud galwad debyg ac mae rhai doctoriaid iau eisoes wedi sôn ar y cyfryngau am groesi Clawdd Offa.
Wynebu – neu redeg i ffwrdd? – cwestiwn Crabb
Ond, yn ôl Ysgrifennydd Cymru, fe fydd rhaid i’r llywodraeth yng Nghaerdydd hefyd wynebu’r broblem ganolog yn y diwedd – o sicrhau cysondeb yn y Gwasanaeth Iechyd am saith diwrnod yr wythnos.
“Fe fydd rhaid iddyn nhw [llywodraethau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon] wynebu’r sialens, neu a ydyn nhw am redeg i ffwrdd oherwydd ei fod yn rhy anodd,” meddai Stephen Crabb.
Roedd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn feirniadol o fethiant Llywodraeth Cymru i recriwtio digon o ddoctoriaid.
Dim ond tair gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd oedd â llai o ddoctoriaid y pen o boblogaeth, meddai yn y rhaglen oedd yn dod o Lanelli.