Graddio (Llun:PA)
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i ddileu hyd at £6,000 y flwyddyn o ddyledion myfyrwyr sy’n astudio yn Lloegr – ond dim ond os ydyn nhw’n dychwelyd i weithio yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd addysg y blaid Simon Thomas y gallai’r cynllun leihau’r baich ar fyfyrwyr yn ogystal â denu gweithwyr â sgiliau i Gymru.
Byddai myfyrwyr oedd yn astudio yng Nghymru hefyd yn cael eu cynnwys yn y cynllun, gyda £6,000 o’u ffioedd yn cael eu had-dalu am bob blwyddyn o’u cwrs.
Y drefn fel y mae
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru’n cynnig grantiau blynyddol o hyd at £5,190 i bob myfyriwr o Gymru ble bynnag maen nhw’n astudio, gan olygu mai dim ond ffioedd o ryw £3,810 sydd yn rhaid iddyn nhw eu talu o gymharu â £9,000 i fyfyrwyr o Loegr.
Maen nhw wedi cael eu beirniadu am dalu i fyfyrwyr sy’n gadael Cymru ond, yn ôl Llafur, ddylai neb gael ei gosbi am hynny ac mae’n rhaid mynd i Loegr, medden nhw, i gael rhai cyrsiau arbenigol.
Mae Llafur eisoes wedi awgrymu eu bod nhw’n bwriadu parhau â’r system bresennol os ydyn nhw’n dal i lywodraethu ar ôl etholiad mis Mai, tra bod y Ceidwadwyr wedi dweud y bydden nhw’n cael gwared â’r grant yn gyfan gwbl.
Byddai cynllun newydd Plaid Cymru’n golygu bod y grant yn cael ei ddileu hefyd, gyda’r system o ddileu dyledion yn dod yn ei le.
‘Ddim yn gynaliadwy’
Yn ôl Plaid Cymru dyw’r polisi presennol, sydd yn golygu bod Llywodraeth Cymru’n rhoi grantiau i fyfyrwyr sy’n astudio yn Lloegr, ddim yn gynaliadwy.
Ond fe fyddai’r polisi yn golygu bod myfyrwyr oedd am fanteisio’n ariannol wrth ddychwelyd i Gymru yn gallu aros nes eu bod wedi graddio cyn penderfynu, yn hytrach na gorfod dewis cyn mynd i’r coleg.
“Bydd ein cynlluniau ni yn galluogi myfyrwyr o Gymru i astudio lle y mynnon nhw, a bydd yn sicrhau y gall economi Cymru elwa o ddoniau myfyrwyr Cymru,” mynnodd Simon Thomas.
“Dan gynlluniau Plaid Cymru, bydd myfyrwyr o Gymru sy’n astudio am radd am dair blynedd yn cael hepgor £18,000 o’u benthyciad.”