Maes Awyr Caerdydd (CCA 2.0)
Fe fyddai Cymru’n ennill cannoedd o filiynau o bunnoedd a channoedd o swyddi newydd pe bai Treth Teithwyr Awyr yn cael ei datganoli – meddai pennaeth maes awyr yn Lloegr.
Ac mae Robert Sinclair, Prif Weithredwr Maes Awyr Bryste, yn dweud ei fod yn disgwyl i’r newid gael ei gyhoeddi yng Nghyllideb y Canghellor George Osborne ym mis Mawrth.
Mae’n amcangyfri’ y gallai’r newid golli 1,500 o swyddi yn ne-orllewin Lloegr ac £843 miliwn i economi’r rhanbarth wrth i deithwyr ddewis hedfan o Faes Awyr Caerdydd.
Rhybudd oedd gan Robert Sinclair ond, yng Nghymru, fe fydd ei ddatganiad yn cael ei ystyried yn ddadl tros ddatganoli’r dreth yn unol ag argymhelliad Comisiwn Silk.
Effaith gostyngiad
Mae’r dreth ar bob taith mewn awyren eisoes wedi cael ei datganoli i’r Alban ac mae’r llywodraeth yno yn bwriadu ei haneru.
Petai Llywodraeth Cymru’n gwneur yr un peth, fe fyddai’n arbed mwy na £70 o bunnoedd i gwpwl yn hedfan ar daith hir.
Yn ôl Robert Sinclair, fe allai hynny fod yn ddigon i berswadio pobol i deithio ychydig ymhellach gan newid y duedd ar hyn o bryd, gyda llawer o deithwyr o Gymru yn hedfan o Fryste.
‘Talu am symud teithwyr’
Yn ôl Robert Sinclair, fe allai Bryste golli 25% o’i deithwyr i Gaerdydd – fe fyddai hynny, meddai, yn golygu “bod trethdalwyr yn talu am symud teithwyr o un maes awyr i un arall” gan greu anfantais fawr i Fryste.
Mae’n dadlau bod y sefyllfa’n wahanol i’r Alban gan fod meysydd awyr Caerdydd a Bryste mor agos at ei gilydd.
Ar hyn o bryd, mae bron 7 miliwn o deithwyr yn hedfan o Fryste bob blwyddyn ac ychydig tros filiwn yn hedfan o Gaerdydd.
Ymateb Maes Awyr Caerdydd
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd, Debra Barber: “Ein blaenoriaeth yw wastad i ddarparu’r profiad gorau posibl i deithwyr a chwsmeriaid, gyda dewis da o deithiau fforddiadwy o’r maes awyr lleol, ac wrth gwrs, i ddarparu budd economaidd sylweddol i Gymru.
“Yr ydym yn credu y dylai meysydd awyr cyfagos gydweithio a chyflenwi ei gilydd, a mynd o nerth i nerth, law yn llaw, er mwyn lles y diwydiant awyr led-led Prydain. Mae poblogaeth de orllewin Lloegr yn cael eu gwasanaethu yn dda gan feysydd awyr Newquay, Caerwysg, Southampton a Bryste.”
Mae Debra Barber yn credu fod angen maes awyr sy’n gwasanaethu pobl Cymru: “Mae pobl Cymru yn haeddu maes awyr cenedlaethol sy’n denu ymwelwyr, ac yn gwasanaethu’r brifddinas, sy’n cynnig dewis da o deithiau am bris rhesymol. Fe ddylai fod yn gyfleus, heb fod angen teithio’n bell.
“Mae treth ar deithwyr awyr yn cosbi ac yn rhwystro gallu Maes Awyr Caerdydd i barhau ar daith o dwf ac fe rydym yn cytuno, fodd bynnag, y dylid sgrapio’r dreth ar y cyfle cyntaf.”