Bydd criw o staff ac unigolion menter gymdeithasol sy’n darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobol ag anableddau dysgu yn beicio 40 milltir ddydd Sadwrn (Ebrill 12) i ddathlu 40 mlynedd ers sefydlu’r fenter.

Gweledigaeth R. Gwynn Davies oedd Antur Waunfawr, pan gafodd ei sefydlu gan bobol ardal Waunfawr ger Caernarfon yn 1984.

Ddeugain mlynedd yn ôl, roedd cwmni elusennol fel Antur Waunfawr – sy’n cynnig gwaith go-iawn gyda phwrpas i bobol ag anableddau dysgu – yn arloesol.

Cyn hynny, derbyn gofal a gwaith mewn canolfannau arbennig fyddai’r unigolion yma.

Gobaith Antur Waunfawr oedd dangos ei bod hi’n bosib rhoi cyfleoedd iddyn nhw weithio allan yn y gymuned, a thrwy hynny wasanaethu’r gymdeithas, a bydden nhw’n cael eu derbyn yn ddinasyddion cydradd.

Mae’r cwmni wedi datblygu dros y blynyddoedd, ac erbyn heddiw maen nhw’n cyflogi dros 100 aelod o staff, ac yn cefnogi dros 65 o oedolion ag anableddau dysgu.

Mae prosiectau ailgylchu yn rhan allweddol o’u gwaith, ac mae Caergylchu, y Warws Werdd a Beics Antur yn cynnig ystod eang o brofiadau gwaith a hyfforddiant.

Dathlu drwy her

Yn 2015, fe brynodd Antur Waunfawr y cwmni lleol, Beics Menai, cyn symud i’r safle newydd ym Mhorth yr Aur yng Nghaernarfon yn 2018.

Maen nhw’n hurio ac yn gwerthu amrywiaeth eang o feiciau, gan gynnwys rhai sydd wedi’u haddasu.

Wrth symud i Borth yr Aur, cafodd safle Beics Antur ei ddatblygu yn ganolfan Iechyd a Llesiant, gyda gwasanaeth llogi a thrwsio beics, Llofft Llesiant i’w logi i gynnal gweithgareddau iechyd a llesiant, ac ystafell synhwyraidd mewn prosiect gwerth £1m.

Bydd y daith yn dechrau o Beics Antur wrth Borth Aur yng Nghaernarfon, a byddan nhw’n gwneud eu ffordd i fyny am Waunfawr, Beddgelert, ac yna draw i Lanberis cyn gorffen yng Nghaernarfon.

“Wnaethon ni feddwl yn Beics Antur: ‘Be am inni ddathlu’r 40 efo taith seiclo?’,” meddai Jack Williams, Swyddog Beics Antur, wrth golwg360.

“Rydan ni’n pwysleisio iechyd a llesiant trwy feicio yn Beics Antur wrth roi’r cyfle i unigolion.

“Felly bydd pedwar ohonom ni’r aelodau staff a dau aelod o Antur Waunfawr sydd wedi bod efo ni ers blynyddoedd, Paul a Gareth, yn seiclo.

“Mae Paul a Gareth yn gweithio efo ni yn Beics Antur hefyd, ac maen nhw’n seiclo yn eu hamser eu hunain ac i’r gwaith ac adref.”

“Mae’r llwybr rydan ni wedi’i ddewis yn her, hyd yn oed i un sy’n seiclo’n rheolaidd.

“Ac mae 40 milltir yn sialens i unrhyw un, ond yn fwy o sialens i’r unigolion fydd yn dod ar y daith efo ni.

“Ond dathliad o 40 mlynedd o Antur Waunfawr fydd y daith yn fwy na sialens.

“Mae’r cyfleoedd rydan ni’n eu rhoi fel rhan o Antur Waunfawr yn wych.

“Mae gennym ni gymaint o feics addasedig a chymaint o amrywiaeth ohonyn nhw i’w ddefnyddio ar lwybrau seiclo’r dref a’r ardal.

“Mae unigolion yn cael dysgu lot wrth weithio yma.

“Hefyd, mae gennym ni adnoddau fel sensory room i unigolion Antur Waunfawr cael defnyddio.

“Mae’r amrywiaeth o gyfleoedd maen nhw’n cael o jest yr un siop yn enfawr.”

‘Edrych ymlaen’ at y daith

Mae Gareth Griffiths o Gaernarfon, fydd yn cymryd rhan yn y daith, wedi bod yn un o griw Antur Waunfawr ers tua 30 mlynedd bellach.

Dros y cyfnod, mae wedi cael llu o brofiadau drwy’r fenter, meddai, ac wedi gweithio ym mhob un o’u hadrannau.

“Dw i’n gweithio efo Beics Antur dau ddiwrnod yr wythnos,” meddai wrth golwg360.

“Ond dw i wedi bod efo Antur Waunfawr ers tipyn – tua 30 mlynedd.

“Wnes i ddechrau pan o’n i’n tua 18 neu 19 oed.

“Dw i wedi cael gweithio efo ailgylchu, yn sortio popeth a chael mynd ar y faniau i’r Bala a Wrecsam efo Caergylchu.

“Dw i hefyd wedi gweithio yng nghaffi Blas y Waun yn Waunfawr, yn gwneud cacenni a bwyd a siarad efo cwsmeriaid.

“Dw i wedi gweithio yn Warws Werdd, yn casglu dillad yn y fan a sortio nhw hefyd.

“Dw i’n mwynhau’r gwaith. Mae o’n braf.

“Dw i yn Beics Antur rŵan, a dw i’n rhoi tiwbiau newydd yn yr olwynion ac yn ailgylchu hen feiciau.

“Dw i’n hoffi beicio, felly dw i’n edrych ymlaen at y daith.”

Y fenter wedi ’datblygu efo’r oes’

Un sy’n rhan o drefnu dathliadau’r fenter eleni yw Dewi Jones, Is-Rheolwr Gofal Antur Waunfawr, ddechreuodd gyda nhw 38 mlynedd yn ôl.

“Dw i wedi gweld lot o newid yn yr Antur ers i fi fod yno,” meddai wrth golwg360.

“Prosiect bach yn Waunfawr oedd o pan wnes i ddechrau, ac roedd o’n rhywbeth unigryw fel bod pobol â nam yn cael gwneud gwaith yn y gymuned.

“Doedd yna nunlle arall fel Antur bryd hynny.

“Roedd gennym ni dipyn o amrywiaeth yn y pethau roedden ni’n eu gwneud ers talwm, fel mynd ag unigolion allan i dorri gwaith yn y gymuned ac i wneud gwaith contract i’r Cyngor yn plannu coed ac ati.

“Ond mae gennym ni lot fwy o amrywiaeth erbyn hyn.

“Rydan ni wedi datblygu efo’r oes.

“Mae agwedd pobol at bobol sydd efo galluoedd gwahanol wedi gwella lot ers i fi ddechrau efo Antur Waunfawr hefyd.”

Mae Antur Waunfawr yn fenter bwysig i’r ardal ond hefyd i’r Gymraeg, meddai.

“Y peth pwysicaf ydy ei fod o’n fudiad Cymraeg o’r dechrau un.

“Mae popeth rydan ni’n gwneud drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Hefyd, rydan ni wedi datblygu i ofynion yr unigolion trwy’r oes.

“Rŵan, wrth gwrs, mae gennym ni unigolion efo anghenion llawer mwy dwys na beth oedd gennym ni ers talwm, a dw i’n meddwl ein bod ni’n gwneud joban dda yn y maes yna.”

Bragu seidr newydd i ddathlu’r 40

Mae Dewi Jones yn edrych ymlaen at gael dathlu’r fenter dros y flwyddyn, ac mae ambell ddigwyddiad ac ymgyrch eisoes wedi’u trefnu, meddai.

“Mi fydd gennym ni gôr makaton ymlaen yn Galeri Caernarfon yng nghanol yr haf.

“A byddwn ni hefyd yn lansio ein seidr newydd i ddathlu 40 mlynedd yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon fis nesaf.

“Mae gennym ni fragdy bach ar y safle lle rydan ni’n gwneud seidr ein hunain, felly bydd gennym ni seidr arbennig ar gyfer y dathliadau.”