Mae Llywodraeth Cymru’n cael eu hannog gan y Ceidwadwyr Cymreig i dderbyn argymhellion Adroddiad Cass ar rywedd.
Mae adroddiad y paediatregydd Dr Hilary Cass yn dweud bod angen gwella gofal iechyd ar gyfer pobol sy’n cwestiynu eu rhyw, yn enwedig plant a phobol ifanc.
Yn ei hadroddiad, sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Ebrill 10), dywed fod angen i wasanaethau rhywedd gael eu cynnal i’r un safon â gwasanaethau iechyd plant eraill.
Dywed hefyd fod adolygiad o 53 o astudiaethau o driniaethau hormonau a 50 yn trafod atalwyr glasoed yn dangos bod diffyg ymchwil o ansawdd ynghylch pobol ifanc.
‘Siom’
Ychwanega Dr Hilary Cass fod yr ymchwil wedi “ein siomi ni i gyd”, yn enwedig pobol ifanc.
“Y gwir amdani yw nad oes gennym unrhyw dystiolaeth dda ar ganlyniadau hirdymor ymyriadau i reoli trallod sy’n ymwneud â rhywedd,” meddai.
Dywed Dr Hilary Cass hefyd fod pobol ifanc “wedi’u dal yng nghanol disgwrs cymdeithasol stormus”.
Ychwanega fod y dadlau o gwmpas rhywedd wedi bod yn “eithriadol” o wenwynig ac wedi amharu ar ansawdd ac argaeledd tystiolaeth ar y pwnc.
Eithrio rhieni yn “peri pryder”
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb i’r adroddiad, gan ddweud y dylai sgyrsiau am les plant gynnwys eu rhieni hefyd.
Mae pwynt 12.16 yn yr adroddiad yn nodi bod yr adolygiad wedi clywed pryderon rhieni fod eu plant wedi cael eu “cadarnhau yn y rhyw a fynegwyd ganddynt heb gyfraniad rhieni”.
Yn ôl yr adroddiad, roedd hyn yn bennaf pan oedd y person ifanc wedi dod allan yn yr ysgol, ond yn bryderus ynghylch sut y gallai eu rhieni ymateb.
Dywed yr adroddiad fod hyn wedi creu sefyllfa o wrthdaro rhwng y rhiant a’r plentyn mewn rhai achosion, lle’r oedd rhai rhieni’n teimlo eu bod nhw wedi’u “gorfodi” i gadarnhau hunaniaeth eu plentyn er mwyn osgoi cael eu galw’n drawsffobig neu’n anghefnogol.
“Rhaid i les ac iechyd plant ddod gyntaf,” meddai Laura Anne Jones, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae achosion o eithrio rhieni o ymarferion gwneud penderfyniadau allweddol yn peri pryder.
“Nid yw’r canllawiau traws a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn berthnasol yng Nghymru, oherwydd mae’r Llywodraeth Lafur wedi dewis ymdrin â’r mater hwn yn wahanol.”
Ychwanega fod y Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg newydd Cymru, i fabwysiadu argymhellion Adolygiad Cass sy’n ymwneud ag ysgolion i’r cwricwlwm newydd.
Daw hyn ar ôl i bwynt 12.6 yn yr adroddiad nodi nad yw “unrhyw daith unigol yn dechrau wrth ddrws ffrynt y Gwasanaeth Iechyd, yn hytrach mae’n cychwyn yn amgylchedd cartref, teulu ac ysgol y plentyn”.