Dylid ystyried cynnig gwersi mewn ysgolion Cymraeg ar sut i ymateb pan fydd dysgwyr yn gofyn am gymorth, yn ôl y Doctor Cymraeg.

Yn wreiddiol o bentref Coed-llai ger yr Wyddgrug, mae Stephen Rule, sy’n athro Cymraeg ail iaith yn Ysgol Maelor yn Llannerch Banna, yn adnabyddus ar-lein fel y Doctor Cymraeg sy’n rhoi cymorth i siaradwyr newydd.

Cynigia fod angen ystyried cynnig gwersi i blant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ar sut i ymfalchïo yn y Gymraeg hefyd.

Mae Stephen Rule, sydd wedi dysgu’r iaith ei hun, yn mynd yn ei flaen i drafod yr heriau sy’n wynebu dysgwyr, a’i bod yn naturiol teimlo fel methiant ar adegau, oherwydd mai dyna yw natur dysgu iaith.

Dywed wrth golwg360 nad yw siaradwyr rhugl ar adegau yn ymwybodol sut mae siarad neu ymdrin â dysgwyr.

“Rhaid i ni gyfaddef bod y Gymraeg mewn sefyllfa eithaf unigryw o ran ieithoedd oherwydd mae iaith gymunedol fel y Gymraeg yn gorfod dibynnu llawer iawn mwy ar ddysgwyr i sicrhau bod yr iaith yn goroesi o gymharu â’r Saesneg, Ffrangeg a Sbaeneg,” meddai.

‘Caru’r iaith’

Er ei fod wedi cael ei fagu ar aelwyd uniaith Saesneg, roedd Stephen Rule yn mwynhau Cymraeg a phob dim yn ymwneud â hi, ac felly dechreuodd ar ei daith o’i dysgu, a bellach mae wedi ysgrifennu llyfrau am yr iaith ac yn gymedrolwr ar gyfer cwrs Cymraeg Duolingo.

“Doedd yr iaith ddim yn hollol estron i fi pan ddaru fi wneud y penderfyniad i’w dysgu,” meddai.

“Dw i wastad wedi caru’r iaith; sut oedd hi’n neud i fi deimlo, sut mae wedi cysylltu fi â phobol a diwylliannau newydd, pa mor gryf mae pobol yn teimlo drosti – jest bob dim amdani!”

Dywed ei fod yn teimlo nad oedd rheswm pam na all roi cymorth i’r to newydd, gan ei fod wedi ennill gradd yn y Gymraeg, yn dysgu’r iaith i blant rhwng 11-18 oed, yn dysgu’r iaith i oedolion, ac yn ei siarad adref.

Hiwmor yn hollbwysig

Gweledigaeth Stephen Rule oedd sicrhau parhad i’r iaith mewn ffordd weledol, hwyliog a hwylus ar y cyfryngau cymdeithasol. 

“Yn bendant, mae hiwmor yn bwysig,” meddai.

“Dw i’n cofio mentro i gerddoriaeth Gymraeg pan oeddwn i dal yn gwneud Lefel A (ail iaith) yn yr ysgol uwchradd a Gwibdaith Hen Fran oedd prif fand Cymru ar y pryd.

“Y ffaith oedden nhw’n defnyddio’r iaith mewn ffordd mor ddoniol wnaeth wneud i fi fod eisiau gwrando a dysgu’r geiriau.”

Ychwanega fod rhaglenni fel rhai Hansh a Dim Byd wedi dal ei sylw, gan eu bod nhw’n “codi gwên”, a bod hiwmor yn elfen bwysig wrth helpu dysgwyr a siaradwyr newydd.

Y Doctor ar-lein

Sefydlodd Stephen Rule gyfrif X (Twitter gynt) yng nghanol y cyfnod clo ym mis Awst 2020, a bellach mae ganddo 75,000 o ddilynwyr ar Instagram a 14,000 o ddilynwyr ar X ledled y byd.

Er bod nifer o sylwadau negyddol yn cael eu gwneud am yr iaith, dydy o ddim yn poeni am hynny.

“Dw i’n caru [sylwadau negyddol] gymaint â dw i’n caru’r sylwadau positif,” meddai.

“Yn anffodus i’r rhai sy’n licio tynnu ar yr iaith a dweud ‘nad ydy hi’n bwysig’, dw i wedi bod yn clywed pethau fel yna drwy fy mywyd ac yn anffodus iddyn nhw, dw i’n gallu bod yn reit sarcastig yn y ffordd dw i’n ymateb.

“Weithiau rydyn ni’n gorffen y sgwrs efo nhw yn newid eu hagwedd yn gyfan gwbl – mae hynny’n wych!”

Yn syml, pwrpas y Doctor yw “canu clod” i’r iaith pryd bynnag y daw cyfle.

Ganol mis Ebrill, bydd yn cynnal sesiwn gyda Francesca Sciarrillo, enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd 2019 a cholofnydd lingo360, yn y Saith Seren yn Wrecsam, lle byddan nhw’n siarad am yr iaith.