Mae un arall o brif ffigyrau UKIP yng Nghymru wedi dweud wrth golwg360 ei fod wedi ymddiswyddo o’r blaid gan gyhuddo’u harweinydd Nathan Gill o ddangos “dim arweiniad”.
Roedd Blair Smillie yn ymgeisydd yn Alun a Glannau Dyfrdwy yn Etholiad Cyffredinol 2015 gan ennill 17.6% o’r bleidlais, yr ail uchaf i’w blaid yng Nghymru.
Ond fe ddywedodd ei fod bellach wedi ymddiswyddo o’r blaid gan nad oedd ganddo ffydd yn Nathan Gill, yn dilyn y ffrae ddiweddar dros ddewis ymgeiswyr ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad.
Mae Blair Smillie yn un o dros ugain o aelodau a chyn-aelodau UKIP sydd wedi arwyddo deiseb yn galw ar Nathan Gill i roi’r gorau i fod yn arweinydd y blaid yng Nghymru.
‘Diffyg democratiaeth’
Gyda disgwyl yn ôl y polau piniwn diweddaraf bod UKIP yn debygol o ennill llond llaw o seddi Cynulliad ym mis Mai, roedd awgrym bod y blaid eisiau i rai o’i henwau mawr o Loegr gael eu hethol – rhai fel y cyn ASau Ceidwadol, Neil Hamilton a Mark Reckless.
Ond ar ôl gwrthwynebiad chwyrn gan rai, gan gynnwys cynghorydd UKIP ym Mro Morgannwg Kevin Mahoney, mae’r blaid wedi gwneud tro pedol a rhoi’r dewis yn nwylo’r aelodau.
Ond dyw hynny ddim wedi bod yn ddigon i blesio Blair Smillie, sydd yn dweud ei fod wedi gadael y blaid a’i fod wedi colli ffydd yn yr arweinyddiaeth.
“Mae’n warthus,” meddai Blair Smillie, sydd yn rhedeg busnes ddodrefn yn Swydd Gaer. “Rydyn ni i fod yn blaid ddemocrataidd … ond mae gynnon ni arweinydd sydd wedi cael ei apwyntio. A does dim arweiniad wedi cael ei ddangos ers i Nathan gael ei gymeradwyo.”
‘Y bobl iawn’
Yn ôl y ddeiseb sydd wedi cael ei chyflwyno i arweinyddiaeth UKIP does gan y blaid ddim “cynllun clir” nag “arweiniad effeithiol” yn arwain tuag at etholiadau’r Cynulliad.
Ymysg y cyn-ymgeiswyr sydd wedi cefnogi’r ddeiseb mae Joe Smyth (Islwyn), Darran Thomas (Brycheiniog a Maesyfed), Ken Beswick (Torfaen), Nigel Williams (Delyn), and Paul Davies Cooke (Dyffryn Clwyd).
“Mae pobol yn teimlo’u bod wedi cael eu gadael allan, a bod clîc yno sydd yn ceisio cymryd drosodd yng Nghymru a’i rhedeg dros UKIP. Nid dyna sut y dylai fod,” mynnodd Blair Smillie.
“Mae’n rhaid cael pobol sydd yn gyfreithwyr, yn blismyn, yn athrawon, pobol fusnes – rhoi pobol felly yn y Senedd. Mae neges UKIP yn dda, mae ganddyn nhw siawns o roi pump, chwech, saith person yn y Senedd, ond mae’n rhaid cael y bobol iawn.”
Gwastraffu amser
Yn ôl Blair Smillie mae yna deimlad ymysg aelodau UKIP yng Nghymru fod y blaid wedi gwastraffu siawns o greu ymgyrch gref cyn etholiadau’r Cynulliad, ac mai ar Nathan Gill a’r arweinyddiaeth y mae’r bai.
“Does dim byd wedi dod at ei gilydd, dim cyfarwyddiadau, dim polisïau, dim cynllun ar gyfer y dyfodol, dim cyfarfodydd wedi’u trefnu. Mae pawb yn dweud ein bod ni wedi colli naw mis,” mynnodd y cyn-ymgeisydd.
“Mae mor rhwystredig gweld y gwaith caled gafodd ei wneud yn yr etholiad cyffredinol yn cael ei daflu i un ochr.
“Roeddwn i mewn cyfarfod llynedd … ac fe ddywedwyd y byddai’n rhaid i Nathan Gill fod yn rhif un ar ein rhestr yng Ngogledd Cymru gan mai fo oedd yr arweinydd. Pam felly cael hystings, a chael ymgeiswyr i wario’u harian a’u hamser os oedd o am fod yn rhif un?
“Onid y bobol orau ddylai symud [y blaid] yn ei blaen, nid [Nathan Gill] jyst achos mai fo sydd wedi cael ei benodi gan Nigel Farage fel ei ddyn o yng Nghymru?
“Mae yna annhegwch mai fo sy’n cael ei weld o hyd yn hytrach na phobl eraill, pobl sydd fwyaf tebyg yn fwy cymwys i fod yn y Cynulliad.
“Yr unig ffordd fydden i’n [ystyried dychwelyd] ydi petai Nathan Gill yn rhoi’r gorau iddi a chynnal etholiad arweinyddiaeth ddemocrataidd a theg.”
Stori: Iolo Cheung