Mae cwmni ceir Toyota am fuddsoddi £7 miliwn yn eu ffatri ar Lannau Dyfrdwy, gyda’r bwriad o adeiladu’r genhedlaeth nesaf o injans hybrid ar y safle, fe gyhoeddwyd heddiw.

Fe fydd yn diogelu cannoedd o swyddi yn Sir y Fflint.

Mae Gweinidog yr Economi, Edwina Hart wedi croesawu’r cyhoeddiad wrth i Lywodraeth Cymru gadarnhau y bydd yn buddsoddi £700,000 yn y ffatri.

Bydd yr injans hybrid 1.8 litr yn cael eu hallforio i Dwrci lle bydd y model newydd – sydd wedi’i seilio ar y model C-HR – yn cael ei adeiladu.

‘Hyder eithriadol’

 

Yn ystod ymweliad â ffatri Toyota yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy heddiw, dywedodd Edwina Hart: “Mae hwn yn newyddion gwych ac rwy’n hapus iawn bod y buddsoddiad sylweddol hwn wedi cael ei glustnodi ar gyfer ffatri Toyota yng Nglannau Dyfrdwy.

“Nid yn unig bydd yn creu cyfle i dyfu mewn marchnad eithriadol o gystadleuol ond bydd yn helpu i ddiogelu dyfodol cynaliadwy’r ffatri yn yr hirdymor a diogelu swyddi tra medrus sy’n talu cyflogau da yn y rhanbarth hefyd.”

“Mae’n dangos yr hyder eithriadol sydd yn y tîm rheoli a’r gweithlu a’r arbenigeddau sydd hefyd  yn bodoli yn ffatri Glannau Dyfrdwy.  Mae Toyota yn bwysig i economi Cymru gan ei fod yn un o’n cwmnïau angori; rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru’n gallu helpu gyda’r buddsoddiad diweddaraf hwn.”

‘Profiad hir a llwyddiannus’

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Jim Crosbie, cyfarwyddwr y ffatri:  “Mae gan Toyota brofiad hir a llwyddiannus yn adeiladu injans yng ngogledd Cymru.

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn dangos cymaint o hyder sydd yn sgiliau a phrofiad ein gweithlu a’r ymrwymiad y maen nhw’n ei ddangos hefyd.”

Dywedodd Dr Johan van Zyl, Llywydd Toyota Motor Europe a’r Prif Swyddog Gweithredol:  “Mae’r farchnad newydd o fodelau C yn ffynnu a bydd yn parhau i fynd o nerth i nerth yn Ewrop a thu hwnt.

“Rydym yn cyflwyno injan newydd ragorol i’r farchnad model C gan ddefnyddio’r system hybrid ‘powertrain’ ddiweddaraf.  Bydd yn creu rhagor o waith i’n ffatrïoedd yn Ewrop.”