Bydd Pride Bae Colwyn yn dychwelyd ar Fai 12, gydag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddathlu cariad, cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Bwriad dathliadau Pride yw arddangos ysbryd bywiog a gwytnwch cymuned LGBTQ+, medd y trefnwyr.

O berfformiadau cerddoriaeth fyw i drafodaethau panel, o sioeau drag sy’n cynnwys rhai o berfformwyr mwyaf talentog y sir i fynychu gweithdai rhyngweithiol yn ymdrin â materion LGBTQ+, maen nhw’n dweud y bydd rhywbeth at ddant pawb yn yr ŵyl.

‘Dathlu tapestri cyfoethog ein cymuned LHDTC+’

Dywed Kai Davies, rheolwr y digwyddiad, fod y trefnwyr wrth eu boddau fod Pride Bae Colwyn yn dychwelyd am yr ail flwyddyn.

“Er nad ydym yn cynnal gorymdaith eleni, rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno ystod amrywiol o ddigwyddiadau sy’n dathlu tapestri cyfoethog ein cymuned LHDTC+ a’i chynghreiriaid,” meddai.

“Mae Pride Bae Colwyn yn ymwneud â mwy nag un diwrnod o ddathlu – mae’n ymwneud â meithrin ymdeimlad o berthyn a derbyniad o fewn ein cymuned.

“Rydym yn gwahodd pawb i ymuno â ni i ddathlu amrywiaeth, hyrwyddo cydraddoldeb ac adeiladu cymdeithas fwy cynhwysol i bawb.”