Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb i’r newyddion bod pennaeth ymchwiliadau swyddfa Ombwdsmon Cymru wedi’i gwahardd yn dilyn cyfres o negeseuon “rhagfarnllyd” ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Sinead Cook, sydd wedi bod yn ei rôl ers deng mlynedd bellach, wedi cael ei gwahardd o’i rôl yn Brif Ymchwilydd ar gyfer Swyddfa Ombwdsmon Cymru tra ei bod hi’n destun ymchwiliad.

Mae ei gwaharddiad yn ganlyniad i gyfres o negeseuon ar un o’i chyfrifon X [Twitter gynt] yn beirniadau’r Blaid Geidwadol.

Mae rôl yr Ombwdsmon yn mynnu bod yn rhaid bod yn wleidyddol ddiduedd.

“Gweld llawer gormod o arwyddion Pleidleisiwch i’r Blaid Geidwadol. Sut gall unrhyw un â chydwybod barhau i bleidleisio drostynt?” medd un neges.

Roedd neges arall ar ei chyfrif, sydd bellach wedi cael ei dileu, yn dweud “F*** the Tories”.

Diduedd

Mae David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn un sydd wedi cwestiynu pa mor ddiduedd yw Swyddfa’r Ombwdsmon o ganlyniad i’r sylwadau.

Dywed ei bod hi’n anodd bod yn hyderus fod y swyddfa, sy’n cael ei hariannu gan drethdalwyr, yn cyflawni ei rôl.

“Er bod ymddygiad yr unigolyn dan sylw yn gwbl waradwyddus, mae’n amlwg bod eraill yn y swyddfa wedi bod yn ymwybodol o’r hyn oedd yn digwydd,” meddai.

“Dylid datgymalu swyddfa’r Ombwdsmon fel y mae, a rhoi rhywbeth newydd yn ei le.”

‘Agwedd rhagfarnllyd’

Mae Sam Rowlands, llefarydd llywodraeth leol y Ceidwadwyr Cymreig, wedi cwestiynu pam fod y negeseuon wedi cael eu rhannu gan unigolyn sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth cwynion sydd i fod yn annibynnol a diduedd.

“Roedd y sylwadau atgas gan rywun â chymaint o hynafedd yn swyddfa’r Ombwdsmon yn ysgytwol ac roedd yn destun pryder mawr fod agwedd mor rhagfarnllyd yn cael ei harddangos, yn enwedig pan mai’r disgwyliad gan y swyddfa yw ymddwyn ag urddas, parch a thegwch,” meddai.

“Er fy mod yn croesawu bod y person dan sylw wedi’i gwahardd o’i gwaith, mae’n codi cwestiwn ynghylch ei disgresiwn yn y gorffennol a goruchwyliaeth o’r sefydliad.”

Ychwanega fod yn rhaid i’r Ombwdsmon bori trwy achosion o’r gorffennol er mwyn sicrhau eu bod nhw wedi cael eu trin yn deg.

“Rwy’n ymwybodol o bryderon bod rhai cynghorwyr sydd ddim yn aelodau o’r blaid Lafur wedi cael eu trin yn llym tra bod cynghorwyr Llafur wedi gweld cwynion yn eu herbyn yn cael eu gwrthod heb ymchwiliad,” meddai.

Dydy Swyddfa’r Ombwdsmon ddim yn gallu gwneud sylw pellach ar y mater ar hyn o bryd, gan eu bod yn cynnal ymchwiliad mewnol.

Fodd bynnag, dywed llefarydd eu bod nhw’n cymryd yr honiadau o ddifrif, a’u bod yn mynd i’r afael â’r achos.