Fydd dim gweithredu radical i ddatrys yr argyfwng tai oni bai bod pobol yn dod mewn “niferoedd mawr” i rali nesaf Cymdeithas yr Iaith, yn ôl y mudiad.

Bydd rali Nid yw Cymru ar Werth yn cael ei chynnal ym Mlaenau Ffestiniog ar Fai 4.

Y prif siaradwyr fydd Beth Winter, yr Aelod Seneddol Llafur; Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd; y Cynghorydd Craig ab Iago; a Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith.

Bydd y siaradwyr a nifer o unigolion lleol, megis y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn; Arfon Jones, cyn-Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd; a’r awdur Sian Northey, yn llofnodi galwad am ‘Ddeddf Eiddo Dim Llai’ hefyd.

Caiff y rali ei chynnal ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, rai misoedd cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Papur Gwyn ar Yr Hawl i Dai Digonol.

Bydd y Comisiwn Cymunedau Cymreig, dan gadeiryddiaeth yr Athro Simon Brooks, yn cyhoeddi eu hadroddiad terfynol yn y misoedd nesaf hefyd.

‘Siomi’n fawr’

Mae pryderon ymysg ymgyrchwyr iaith nad yw Llywodraeth Cymru’n deall maint yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymraeg, ac na fydd polisïau digon blaengar i fynd at wraidd y broblem yn cael eu mabwysiadu.

“Mewn cyfarfodydd gyda swyddogion Adran Tai a Chynllunio Llywodraeth Cymru, mae Cymdeithas yr Iaith wedi’i siomi’n fawr â’u diffyg dealltwriaeth o broblemau sy’n wynebu pobol leol wrth geisio cael hyd i gartrefi am bris fforddiadwy yn eu cymuned, a’u diffyg dealltwriaeth o’r chwalfa i gymunedau Cymraeg,” meddai Osian Jones, un o drefnwyr y rali.

“Heblaw bod pwysau mawr ar y Llywodraeth cyn yr haf, mae gwir beryg na fydd Papur Gwyn y Llywodraeth ar Dai yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau.

“Yn ymarferol, dyma’r cyfle olaf yn y tymor seneddol hwn i gyflwyno a phasio deddfwriaeth fydd yn rheoli’r farchnad dai er budd pobol leol ac yn cynllunio datblygiadau newydd yn ôl anghenion ein cymunedau.

“Wedi degawdau o ymgyrchu a dirywiad yn ein cymunedau, mae angen gweithredu radical rŵan.

“Yr alwad fawr felly fydd “Deddf Eiddo – Dim Llai”, a’r gobaith yw y bydd ‘Stiniog ac ardaloedd cyfagos Traws, Penrhyn, Port, Penllyn a Dyffryn Conwy’n arwain y ffordd, a bod pawb sy’n poeni am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg yn dod mewn cannoedd neu filoedd i’r rali.”