Fe fydd y nifer o lefydd ar gyrsiau hyfforddi nyrsys yng Nghymru’n cynyddu 10% yn sgil buddsoddiad o £85 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Daeth y cyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford ddydd Mercher.
Yn nhermau niferoedd, mae’r buddsoddiad yn golygu bod 135 o lefydd ychwanegol yn cael eu creu ar gyfer 2016-17, ac mae’n golygu y bydd cynnydd am yr ail flwyddyn yn olynol, yn dilyn cynnydd o 22% yn 2015-16.
Mae’r buddsoddiad hefyd yn golygu bod y nifer o lefydd sydd ar gael i nyrsys gael hyfforddiant ar ei lefel uchaf ers dechrau datganoli.
Mae’r pecyn buddsoddi hefyd yn cynnwys:
– Cynnydd o fwy na 10% yn nifer y llefydd ar gyfer darpar-ffisiotherapyddion
– Cynnydd o fwy na 10% yn nifer y llefydd ar gyfer darpar-radiograffegwyr diagnostig
– Mwy o fuddsoddiad mewn rhaglenni gwyddor gofal iechyd
Yn sgil y pecyn cymorth, fe fydd 2,697 o fyfyrwyr newydd yn gallu dilyn rhaglenni addysg a hyfforddiant yn 2016-17, o’i gymharu â 2,498 yn 2015-16.
Heddiw, mae 84,000 o bobl yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, sef traean yn fwy na ffigwr 1999.
‘Staff medrus yn ganolog i’r Gwasanaeth Iechyd’
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford: “Mae staff medrus iawn yn ganolog i Wasanaeth Iechyd Cymru. Bydd y buddsoddiad gwerth £85 miliwn hwn yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf a fydd yn darparu gofal iechyd i’r genedl.
“Mae hyn yn cynnwys y lefel uchaf o leoedd hyfforddi i nyrsys ers datganoli a mwy o leoedd hyfforddi mewn meysydd proffesiynol allweddol, gan gynnwys radiograffeg ddiagnostig a ffisiotherapi.
“Mae’r buddsoddiad hwn yn seiliedig ar yr hyn mae sefydliadau’r GIG wedi dweud wrthym sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn cynnal gwasanaethau.
“Er gwaetha’r pwysau ariannol sydd wedi ein hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi parhau i fuddsoddi mewn addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru. Bydd hyn yn parhau eto eleni.”