Y bws sy'n rhan o'r ymgyrch 'Miliwn o Siaradwyr Cymraeg'
Fe fydd rali yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn wrth i ymgyrch Cymdeithas yr Iaith, ‘Rali Miliwn o Siaradwyr Cymraeg’ barhau.
Cafodd yr ymgyrch ei lansio ar Chwefror 3, a’i nod yw sicrhau bod y llywodraeth nesaf yng Nghymru’n rhoi mwy o sylw i’r Gymraeg.
Dros y misoedd nesaf, bydd yr ymgyrch yn teithio i bob cwr o Gymru mewn bws i roi mwy o ffocws ar y Gymraeg yn etholiadau’r Cynulliad.
Blaenoriaethau’r ymgyrch yw sicrhau miliwn o siaradwyr Cymru, atal allfudiad o Gymru a defnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd.
Cafodd dogfen bolisi’r ymgyrch ei chyhoeddi’r llynedd, a honno’n cynnig nifer o argymhellion ar gyfer hybu’r Gymraeg.
Y prif argymhelliad oedd symud at addysg cyfrwng Cymraeg i bawb yng Nghymru.
‘Dim digon o sylw’
Adeg y lansiad, dywedodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Jamie Bevan: “Dyw’r Gymraeg ddim wedi cael digon o sylw yn ystod etholiadau blaenorol y Cynulliad.”
Fe ddywedodd ei fod am weld cynllun “manwl a hir dymor” ar gyfer y Gymraeg fel rhan o Lywodraeth nesaf Cymru.
“Rydyn ni eisiau i’r holl bleidiau gyhoeddi cynlluniau manylach nag erioed o’r blaen. Dyna sydd ei angen fel bod modd i bobol drin a thrafod y ffordd gorau ymlaen.”
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd y daith fws yn fodd i godi ymwybyddiaeth o “bwysigrwydd hoelio sylw ar y Gymraeg.”
Bydd y rali y tu allan i Neuadd y Ddinas ym Mharc Cathays yn y brifddinas am 1 o’r gloch brynhawn dydd Sadwrn, a’r siaradwyr gwadd yw Jamie Bevan, Elaine Edwards (UCAC), a’r cantorion Caryl Parry Jones a Kizzy Crawford.