Mae Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, wedi cyhoeddi £1m o gyllid ar gyfer rhwydwaith o glybiau ceir i gysylltu cymunedau gwledig â’i gilydd.

Mae’r cyllid yn rhan o gynlluniau’r Llywodraeth i gyrraedd targedau uchelgeisiol ar gyfer lleihau allyriadau carbon, gyda’r nod o sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus, teithiau cerdded a beicio yn cyfrif am 45% o deithiau erbyn 2040.

Mae’r cyhoeddiad diweddaraf yn adeiladu ar waith y Llywodraeth eisoes i wella hygyrchedd o fewn cymunedau gwledig, fel y gwasanaeth bws Fflecsi, sy’n ymateb i’r galw.

Bydd y cynlluniau ar gyfer clybiau ceir, sy’n darparu ffordd hawdd a fforddiadwy i bobol rannu manteision defnyddio car, heb y gost o fod yn berchen ar un, yn cael eu gweithredu mewn cymunedau gwledig ledled Cymru, gan gynnwys:

  • Y Drenewydd
  • Llanidloes
  • Y Trallwng
  • Machynlleth
  • Crymych
  • Cwmllynfell
  • Cilgeti
  • Llanymddyfri
  • Llandrindod

O 32% i 45%

Fe fu Lee Waters ar ymweliad ag un o’r clybiau ceir sydd newydd ei ariannu yn Llandeilo.

“Er mwyn cyrraedd ein targedau o ran allyriadau carbon cyfreithiol, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus, teithiau cerdded a beicio yn cyfrif am 45% o deithiau erbyn 2040 (i fyny o 32% yn 2021),” meddai.

“Bydd cyflawni hyn mewn ardaloedd gwledig yn gofyn am ddull gwahanol i’r hyn fydd yn cael ei wneud yn y rhan fwyaf o ardaloedd trefol.

“Mae clybiau ceir yn ffordd hawdd a fforddiadwy i bobol rannu’r defnydd o gar heb y costau sydd ynghlwm wrth fod yn berchen ar un.

“Bydd y cyllid a gyhoeddir heddiw yn creu rhwydwaith o glybiau ceir mewn cymunedau gwledig ledled Cymru ac edrychaf ymlaen at weld y gwahaniaeth gwirioneddol y bydd yn ei wneud o ran ehangu opsiynau trafnidiaeth a lleihau ein hallyriadau carbon dros amser.”

‘Gwahardd heolydd newydd’

“Tra bod buddsoddi mewn clybiau ceir i’w groesawu, sut mae’r Dirprwy Weinidog yn bwriadu cyflwyno hyn ar ôl gwahardd heolydd newydd rhag cael eu hadeiladu?” gofynna Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

“Bydd gwaharddiad gwarthus Llafur ar adeiladu heolydd yn gadael cymunedau wedi’u torri i ffwrdd, ac yn cosbi modurwyr ymhellach.

“Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn gwyrdroi polisïau gwrth-gymudwyr Llafur ac yn cael Cymru i symud.”