Mae Jeremy Miles, Gweinidog Addysg Cymru, wedi cyhoeddi cyllid cyfalaf gwerth £12.5m i wella adeiladau ysgolion a cholegau.

Bydd y pecyn cyllido’n cynnwys £2.56m i dalu am gostau’r gwaith adfer ym mhob ysgol lle mae concrit awyredig awtoclafedig cyfnerth (RAAC) wedi’i ganfod.

Bydd £10m pellach ar gael ar gyfer gwaith cyfalaf cynnal a chadw ar raddfa fawr i ganolbwyntio ar fesurau arbed ynni – gan gynnwys ailosod toeau, ffenestri, gwaith gwresogi ac awyru a systemau trydanol.

Dim ond pum ysgol yng Nghymru sydd wedi cael eu henwi fel rhai sydd wedi eu heffeithio gan RAAC:

  • Ysgol David Hughes, Porthaethwy
  • Ysgol Uwchradd Caergybi
  • Ysgol Maes Owen yng Nghonwy
  • Ysgol Trefnant yn Sir Ddinbych
  • Ysgol Gynradd Eveswell yng Nghasnewydd

Mae hynny o gymharu â mwy na 230 o achosion yn Lloegr, a 39 o achosion yn yr Alban.

Mae pob ysgol yng Nghymru ar agor i ddisgyblion.

Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

“Mae’r ffaith bod cyn lleied o achosion o RAAC wedi’u canfod yn ein hystâd addysg yn dyst i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn ysgolion dros nifer o flynyddoedd, trwy ein Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac yn ehangach,” meddai Jeremy Miles.

“Rwy’ am sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cyflawni ei botensial, a bod eu haddysg yn cael ei darparu mewn amgylcheddau sy’n addas i’r diben.

“Bydd y pecyn cyllido cyfalaf rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn galluogi awdurdodau lleol a cholegau i wneud gwaith cynnal a chadw i sicrhau bod yr ystâd addysg yng Nghymru yn ddiogel ac yn effeithlon.”

Mae awdurdodau lleol sydd ag ysgolion sydd wedi’u heffeithio gan RAAC wedi croesawu’r cyllid o £2.56m i dalu am y costau adfer.

“Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am y cyllid yma sydd wir ei angen ac am y gefnogaeth ragweithiol gafwyd wrth i ni ymateb i’r argyfwng RAAC,” meddai Llinos Medi, arweinydd Cyngor Ynys Môn.

“Mae’r misoedd diwethaf yma wedi bod yn anodd iawn i’r ysgolion sydd wedi eu heffeithio – Ysgol Uwchradd Caergybi ac Ysgol David Hughes, Porthaethwy.

“Mae gwaith trwsio sylweddol eisoes wedi’i wneud er mwyn sicrhau bod y ddwy ysgol wedi gallu croesawu disgyblion yn ôl i’w hadeiladau ar gyfer addysg wyneb yn wyneb.

“Hoffwn ddiolch i holl staff, disgyblion a rhieni a gwarcheidwaid yr ysgolion hynny am eu hamynedd, eu cydweithrediad a’u cefnogaeth yn ystod cyfnod heriol iawn.

“Mae gwaith pellach angen ei wneud ac mae’n bwysig bod hynny’n digwydd cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod holl ardaloedd o fewn adeiladau’r ysgolion yn ddiogel i’w defnyddio.

“Bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn ein galluogi ni i gwblhau’r gwaith yma a chwrdd â chostau eraill yn gysylltiedig â RAAC, heb orfod defnyddio ein harian wrth gefn prin ein hunain.”

‘Dylai’r cyhoeddiad fod wedi dod ynghynt’

“Bydd ysgolion sydd wedi’u heffeithio gan RAAC yn croesawu’r cyhoeddiad hwn, ond does fawr o amheuaeth y dylai fod wedi dod ynghynt,” meddai Laura Anne Jones, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig.

“Yn hytrach na mynd i’r afael â’r mater unwaith y daeth i’r amlwg, treuliodd y Llywodraeth Lafur amser gwerthfawr yn pleidleisio dros ddeddfwriaeth i wario degau o filiynau o bunnoedd ar 36 yn rhagor o wleidyddion ym Mae Caerdydd yn lle hynny.

“Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi terfyn ar brosiectau gwagedd a gweithredu ar flaenoriaethau pobol.”