Wrth i wrandawiadau’r ymchwiliad Covid barhau yng Nghaerdydd mae Simon Hart, cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o geisio bod yn wahanol wrth ymateb i’r pandemig.
Ychwanegodd Simon Hart y dylai’r ymateb fod wedi bod yn gyson ar draws holl wledydd Prydain.
Clywodd yr ymchwiliad bod y cyn-ysgrifennydd yn honni bod Llywodraeth Cymru wedi “mynd ati i geisio gwahaniaethu eu hymateb, o gymharu ag un Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Lloegr, am ddim rheswm arall ond i fod yn wahanol ac i’w gosod ar wahân i wledydd eraill y Deyrnas Unedig”.
Er hynny, mae nodiadau o gyfarfod a gynhaliwyd ym Mawrth 2020 yn dangos bod Simon Hart wedi amddiffyn penderfyniad Cymru i wyro oddi wrth ddeddfwriaeth Lloegr.
“Os oedd rhesymau dilys dros wahanu dw i ddim yn hollol siŵr beth oedden nhw,” meddai.
“Yn bwysicach fyth, dydw i ddim yn hollol siŵr pa effaith gawson nhw.”
Ychwanegodd bod cyfathrebu rhwng y ddwy lywodraeth wedi bod fel “stryd unffordd” yn ystod y pandemig, gyda diffyg cyfathrebu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Cyfaddef defnyddio WhatsApp yn ‘anghywir’
Yn ystod gwrandawiadau dydd Iau (Mawrth 7) rhoddodd Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig i’r Prif Weinidog, ei thystiolaeth hi.
Clywodd yr ymchwiliad bod WhatsApp wedi cael ei ddefnyddio i drafod busnes y Llywodraeth Cymru ar adegau a bod rhai negeseuon wedi cael eu dileu – naill ai yn awtomatig neu ar bwrpas.
Cyfaddefodd Jane Runeckles, cynghorydd uchaf y Prif Weinidog sydd wedi gweithio i’r llywodraeth ers tua ugain mlynedd, bod defnyddio’r ap wedi bod yn benderfyniad “anghywir.”
Yn wreiddiol, dywedodd bod WhatsApp ond wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer “dibenion gweinyddol ac ar gyfer morâl y tîm”.
“Roedd hwn yn bwynt lle nad oedd fy nhîm yn y swyddfa mwyach, ac roedd yn rhywbeth y gwnaethom ei ddefnyddio i gadw mewn cysylltiad ac i gadw’r tîm gyda’i gilydd,” meddai.
Fodd bynnag cwestiynodd y Fonesig Hallet, cadeirydd yr ymchwiliad, onid oedd defnyddio ffôn personol at ddibenion gweinyddol yn golygu bod y ffôn wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer busnes y Llywodraeth mewn gwirionedd.
Wedi iddi gael ei chwestiynu, cytunodd Jane Runeckles gyda sylwadau’r Fonesig.
Mae arweinydd y ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, wedi mynegi ei siom wedi’r gwrandawiad.
“Drwy ddileu negeseuon a oedd yn berthnasol i benderfyniadau Llywodraeth Cymru yn fwriadol, mae cynghorwyr a Gweinidogion wedi dwyn yr atebion mae teuluoedd mewn profedigaeth yn haeddu,” meddai.
“Mae pobol a gollodd aelodau o’u teulu a ffrindiau yn ystod y pandemig yn haeddu gwybod sut a pham y gwnaed penderfyniadau, ond diolch i gamau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru, efallai na fyddan nhw byth yn cael yr atebion hynny.
“Os oes gan y Llywodraeth Lafur unrhyw lefel o barch neu dosturi tuag at y bobol hynny, fe ddylen nhw wneud y peth iawn a sefydlu ymchwiliad penodol i Gymru felly.”