Bydd treth y cyngor Sir Benfro’n codi lai na’r disgwyl, gan 12.5% yn hytrach na 16.3%, ar ôl i gynnig cyllideb amgen dderbyn cefnogaeth funud olaf.

Roedd cynghorwyr wedi argymell codi treth y cyngor gan 16.3% mewn cyfarfod o’r cyngor llawn heddiw (Mawrth 7).

Byddai’r cynnydd o 16.3% wedi golygu bod lefel sylfaenol treth y cyngor – cyn gofynion y cynghorau tref y chymuned a’r heddlu – yn cynyddu £219.02 ar gyfer eiddo cyffredin ym Mand D.

Byddai hynny’n golygu eu bod nhw’n talu cyfanswm o £1,561.98 y flwyddyn.

Mae Sir Benfro yn wynebu bwlch ariannol o £31.9m ar y funud, yn rhannol oherwydd eu bod nhw wedi cael llai o arian na’r disgwyl gan y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro.

Mae’r swm wedi codi ers y £27.1m o fwlch disgwyliedig ym mis Rhagfyr a’r £28.4m ym mis Ionawr, a chafodd ei ddisgrifio fel “y bwlch ariannol mwyaf yn ein hanes o bell ffordd”, gan y Cynghorydd Alec Cormack, yr Aelod Cabinet dros Gyllid Corfforaethol.

Newid munud olaf

Yn y cyfarfod heddiw, roedd galwad funud olaf gan y Cynghorydd Paul Miller, dirprwy arweinydd y cyngor, i newid y gyllideb.

Fe wnaeth gynnig cynnydd o 12.5% yn nhreth y cyngor, gan ddefnyddio £1.5m o arian wrth gefn ychwanegol, ynghyd â tharged o £1m yn arbedion effeithlonrwydd y cyngor, i’w gyfiawnhau.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller y byddai’r dreth wythnosol yn codi £3.22 i bob eiddo, ar gyfartaledd, neu £167.86 y flwyddyn.

Fe wnaeth aelodau gefnogi’i ddiwygiad i’r cynnig o 30 pleidlais i 26, gydag un yn ymatal.

Byddai’r bil treth y cyngor terfynol i drigolion y sir yn uwch na hynny yn sgil ychwanegion cynghorau cymuned a thref a’r heddlu; gyda pherchnogion ail gartrefi a thai gwag yn wynebu biliau uwch yn sgil y premiwm treth cyngor.

Y premiwm ar gyfer ail dai yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf yw 200%. Mae tai sydd wedi bod yn wag am 24 mis yn wynebu premiwm o 100%, rhai sy’n wag ers dros 36 mis yn wynebu premiwm o 200%, ac yna 300% ar ôl pum mlynedd.

Daw’r cynnydd o 12.5% yn nhreth y cyngor ar ôl cynnydd blaenorol o 12.5%, 9.92%, 5%, 3.75%, 5% a 7.5%.

Roedd y sir wedi wynebu’r posibilrwydd o gynnydd mwy fyth – 18.94% neu 20.98% – cyn i aelodau’r cabinet gefnogi cynnig o 16.3% fis diwethaf.

Fe wnaeth Ceredigion gefnogi cynnydd o 11.1% yn nhreth y cyngor ar Chwefror 29.