Gallai trethdalwyr yng Ngheredigion wynebu cynnydd llai na’r disgwyl yn nhreth y cyngor nag yr oedden nhw’n ei ofni – ond hwn fyddai’r ail gynnydd mwyaf yng Nghymru serch hynny, pe bai cynigion gerbron uwch gynghorwyr yn cael eu cymeradwyo’r wythnos nesaf.

Roedd Ceredigion yn wynebu cynnydd o bron i 14%, fyddai wedi arwain at £216 yn ychwanegol ar gyfer eiddo Band D cyfartalog, wrth i’r Cyngor wynebu eu “cyllideb fwyaf difrifol eto”.

Yng nghyfarfod y Cabinet fis Ionawr, roedd cefnogaeth i gynnydd arfaethedig o 13.9% yn nhreth y cyngor ar gyfer 2024-25, gyda’r penderfyniad terfynol i’w wneud gan y Cyngor llawn ar Chwefror 29.

Mewn papurau sydd wedi’u paratoi ar gyfer cyfarfod Cabinet y Cyngor ar Chwefror 20, ychydig dros wythnos cyn Dydd y Farn o ran y gyllideb, yr argymhelliad bellach yw fod cynnydd llai o 11.05% yn cael ei gynnig i’r Cyngor llawn, sy’n cyfateb i gynnydd o £171.67 ar gyfer eiddo cyffredin.

Yn y bôn, byddai’r gostyngiad yng nghyfradd treth y cyngor yn golygu bod y Cyngor yn casglu £1.495m yn llai.

Byddai’r cynnydd llai sy’n cael ei gynnig yn dal i fod yr ail gynnydd mwyaf sydd i’w ddisgwyl yng Nghymru.

Mae’r cynnydd arfaethedig yn amrywio o 3%, yr isaf, yng Nghaerdydd i 16%, yr uchaf, yn Sir Benfro.

Adroddiad

“Mae’r broses gyllidebu eleni wedi bod yn fwy symudol nag arfer o ganlyniad i’r heriau eithriadol rydym yn eu hwynebu,” meddai adroddiad ar gyfer aelodau Cabinet Ceredigion.

Mae’n rhestru newidiadau yn sefyllfa ariannol y Cyngor ers cyfarfod Cabinet mis Ionawr.

Un o’r heriau ariannol yw ardoll Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a’r Gorllewin o £584,000 – sy’n cyfateb i 1.1% ar dreth y cyngor Band D.

Mae cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, gafodd ei gyhoeddi ar ôl y cyfarfod Cabinet diwethaf, yn adfer toriad disgwyliedig i’r grant gweithlu gofal cymdeithasol gwerth £253,000 ynghyd â Setliad Terfynol Cyllid Llywodraeth Leol, gyda dyraniad arddangosiadol i Geredigion o £343,000 ychwanegol yn dilyn cynnydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn eu setliad llywodraeth leol.

Mae grantiau penodol ar gyfer cynlluniau sy’n cynnwys amddiffynfeydd arfordirol Aberaeron hefyd am gael eu trosglwyddo i’r setliad cyllideb terfynol, sy’n gyfanswm o £2.228m.

Mae cynigion ar gyfer tri thoriad arall yn y gyllideb sy’n cyfateb i £714,000 wedi cael eu hychwanegu at y rhestr flaenorol hefyd.

Mae’r rhain yn cynnwys cytundeb gwastraff gweddilliol newydd, sy’n arbed £300,000 ac sy’n cael ei ystyried ar wahân ar agenda’r Cabinet ar gyfer Chwefror 20, ac arbedion gwerth £395,000 o ran lleoliadau plant.

Mae’r cyfan yn arwain at ofyniad o £193.546m ar gyfer cyllideb arfaethedig 2024-25.

Gwasanaethau craidd y Cyngor

“Ar gyfer gwasanaethau craidd y Cyngor, byddai hyn yn arwain at gynnydd arfaethedig yn nhreth y cyngor at ddibenion y Cyngor Sir o 9.95%,” medd yr adroddiad.

“Fodd bynnag, o ganlyniad i’r pwysau ariannol sylweddol sy’n deillio o ardoll y Gwasanaeth Tân, bydd angen ychwanegu cynnydd pellach o 1.1% yn nhreth y cyngor i allu ariannu’r agwedd hon yn llawn.

“O ganlyniad, 11.05% yw’r cynnydd arfaethedig yn nhreth y cyngor.”

Mae’r cynnig diweddaraf yn golygu y byddai eiddo Band D cyffredin yng Ngheredigion yn talu lefel sylfaenol o dreth y cyngor o £1,725.27 – i fyny o’r £1,553.60 ar hyn o bryd.

Mae disgwyl i awdurdodau cyfagos gynyddu treth y cyngor gan 7.5% yn achos Powys, a 6.5% yn Sir Gaerfyrddin.