Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dal i wynebu “heriau sylfaenol”, yn ôl adroddiad.

Daw’r adroddiad flwyddyn ar ôl i fwrdd iechyd y gogledd gael ei roi o dan fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru, yn sgil pryderon ynghylch perfformiad, arweinyddiaeth a diwylliant mewnol y bwrdd.

Dyma’r ail waith dros y blynyddoedd diwethaf i’r bwrdd iechyd gael ei roi dan fesurau arbennig.

Mae Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn dweud bod angen cymryd camau gweithredu pellach a llenwi swyddi gwag “cyn gynted â phosib”, gan ychwanegu bod angen datrys problemau’r adran gyllid hefyd.

Gwahardd staff

Ar hyn o bryd, mae rhai o staff yr adran gyllid wedi’u gwahardd rhag gweithio am gyfnod, tra bod ymchwiliadau’n cael eu cynnal.

Mae cwmni cyfrifo eisoes wedi canfod fod rhai aelodau’r adran wedi cofnodi cyfrifon yn anghywir yn fwriadol, gan gynnwys dyrannu gwariant sawl blwyddyn i un flwyddyn ariannol yn unig.

“Mae’n galonogol gweld nad yw’r camweithrediad o fewn uwch arweinyddiaeth y bwrdd iechyd a ddisgrifiwyd gennym y llynedd yn bresennol bellach,” meddai Adrian Crompton.

“Nawr mae angen i’r bwrdd adeiladu ar y cynnydd hwn a darparu’r arweinyddiaeth sefydliadol unedig sydd ei angen i fynd i’r afael â’r heriau sylweddol a pharhaus sy’n wynebu’r bwrdd iechyd.”

Carreg filltir

Mae’r adroddiad wedi’i groesawu gan Dyfed Edwards, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

“Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn sy’n cydnabod y cynnydd y mae’r bwrdd iechyd wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf,” meddai.

“Rwy’n deall yn iawn fod llawer mwy i’w wneud wrth i ni barhau ar ein taith wella er mwyn sicrhau gwasanaethau gofal iechyd rhagorol i bobol gogledd Cymru.”

Ychwanega ei fod yn ystyried adroddiad diweddaraf Archwilio Cymru’n “garreg filltir i ddangos ein bod yn symud i’r cyfeiriad cywir”.

“Dros y deuddeg mis diwethaf, rydym wedi gweithio i greu sefydlogrwydd a diwylliant cadarnhaol a chefnogol o fewn y bwrdd iechyd, wrth ganolbwyntio ar ansawdd darpariaeth gwasanaeth ac estyn allan i gleifion a’r cyhoedd rydym yn eu gwasanaethu,” meddai.