Mae arweinwyr Plaid Cymru wedi ymateb yn chwyrn i’r cyhoeddiad fod y Deyrnas Unedig mewn cyfnod o ddirwasgiad erbyn hyn.

Yn ôl ystadegau swyddogol, mae’r rhesymau am y dirwasgiad yn cynnwys y ffaith fod pobol yn gwario llai, streiciau meddygol a chwymp ym mhresenoldeb plant yn yr ysgol.

Fe wnaeth yr economi grebachu mwy na’r 0.3% disgwyliedig rhwng Hydref a Rhagfyr y llynedd, ar ôl crebachu cyn hynny rhwng Gorffennaf a Medi.

Diffyg twf yn yr economi dros gyfnod o ddau chwarter yn olynol yw ystyr dirwasgiad.

Daw hyn er gwaethaf addewid Rishi Sunak y byddai ei Lywodraeth Geidwadol yn tyfu’r economi unwaith eto, ac mae ei lywodraeth yn gwrthod dweud sut maen nhw’n mesur a yw e wedi gwireddu’r addewid.

‘Methiant’

“Mae’r Torïaid wedi methu,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

“Mae Brexit wedi methu.

“Mae llymder wedi methu.

“Gall Cymru wneud gymaint yn well na hyn.”

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, degawd o arweinyddiaeth Geidwadol sydd wedi arwain at y sefyllfa bresennol.

“Dim ots a ydy GDP yn aros yn ei unfan neu’n dirywio, mae pobol yn teimlo poen economaidd blynyddoedd o danfuddsoddi cronig y Torïaid,” meddai.

“Mae Cymru yn haeddu gwell na hyn.”