Mae’r Arglwydd Neil Kinnock, arweinydd y Blaid Lafur rhwng 1983 a 1992, wedi datgan mai Vaughan Gething fydd yn derbyn ei gefnogaeth yn ras arweinyddol Llafur Cymru.

Dywed Kinnock fod angen “gweledigaeth sy’n rhoi pwrpas clir” ynghyd â synnwyr cyffredin a gwytnwch ar unrhyw arweinydd er mwyn bod yn llwyddiannus.

“Mae gan Vaughan y rhinweddau hynny’n llawn – maen nhw wedi’u gwreiddio’n ddwfn ac, yn hollbwysig, wedi’u profi o dan bwysau wrth i Vaughan [Gething], ynghyd â Mark [Drakeford], arwain Cymru drwy’r pandemig Covid-19 yn ei rôl flaenorol yn Weinidog Iechyd,” meddai.

“Cafodd ei brofi o dan chwyddwydr ein hargyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf ers canrif a’r argyfwng mwyaf mae Prydain wedi’i brofi ers yr Ail Ryfel Byd.”

Dywed fod rhinweddau a gwerthoedd yr ymgeisydd yn deillio o’i “sosialaeth ddemocrataidd, ei hanes hir o undebaeth lafur, a’i gymeriad cryf”.

“Maen nhw i gyd yn ei alluogi i sefyll yn ddiflino yn erbyn Torïaeth ac i fod ag ymdeimlad o wasanaeth i Gymru a’i holl gymunedau,” meddai.

‘Deinamig, dilys, penderfynol’

Dywed Neil Kinnock ei fod e wedi gweld ymdrechion Vaughan Gething i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a swyddi newydd ar waith.

Cyfeiria hefyd at ei ymdrechion i frwydro yn erbyn penderfyniad cwmni dur Tata i gael gwared ar filoedd o swyddi ym Mhort Talbot.

“Mae’n ddeinamig, yn ddilys ac yn benderfynol – fel rydyn ni wedi’i weld wrth iddo frwydro dros swyddi dur ledled Cymru,” meddai.

“Dyna’r rhinweddau sydd eu hangen i arwain ein mudiad Llafur a Chymru wrth i ni baratoi ar gyfer etholiad cyffredinol pwysicaf y Deyrnas Unedig ers cenhedlaeth – cyfle gwirioneddol i ddiarddel y Torïaid o’r diwedd ar ôl 14 o flynyddoedd hir, poenus.”

Mae Vaughan Gething wedi croesawu cefnogaeth Neil Kinnock, gan ei ddisgrifio fel “cawr” o fewn y mudiad.

“Ychydig iawn o bobol sydd yn gwybod mor acíwt [a Neil Kinncok] beth sydd ei angen i arwain ein plaid,” meddai.

“Mae’n anrhydedd i mi gael ei gefnogaeth.

“Rwy’n obeithiol am y dyfodol y gall ein mudiad Llafur Cymreig ei greu i Gymru gyda’n gilydd – i Gymru, i Lafur, i chi.”