Bydd 50 o fflatiau newydd ynni-effeithlon yn cael eu hadeiladu ym Mhen-y-lan yng Nghaerdydd, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Bydd y fflatiau’n cael eu defnyddio at ddibenion llety cymdeithasol yn yr ardal, a byddan nhw’n cyfrannu at nod y llywodraeth o adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol erbyn 2026.
Daw hyn wrth i’r datblygwyr tai Wales & West Housing dderbyn dros £5m trwy Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru i’w helpu nhw i ariannu’r datblygiad.
Cafodd y gyllideb o £300m ar gyfer y Grant Tai Cymdeithasol ei wario’n llawn ar gyfer y flwyddyn 2022-23, ac felly mae swm ychwanegol o £300m wedi’i ddarparu ar gyfer 2023-24.
Dywed Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, fod tai cymdeithasol fforddiadwy yn parhau i fod yn un o’i blaenoriaethau.
“Bydd y datblygiad newydd hwn yn darparu tai cymdeithasol mae mawr eu hangen yng Nghaerdydd, a bydd hefyd yn hyrwyddo teithio llesol ac yn helpu pobol a theuluoedd i arbed arian ar eu biliau ynni,” meddai.
“Mae Colchester Avenue [lleoliad y llety cymdeithasol newydd] yn enghraifft wych o’r math o gartrefi o ansawdd uchel, ynni-effeithlon a fforddiadwy rydyn ni’n ceisio’u darparu ar gyfer pobol a theuluoedd yng Nghymru.”
Llai o gost a llai o garbon
Dywed Anne Hinchey, Prif Weithredwr Wales & West Housing, eu bod nhw wedi ymrwymo i gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi, a mynd i’r afael â newid hinsawdd a thlodi tanwydd.
“Mae’n holl gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu heb fod angen tanwyddau ffosil, ac mae hynny’n eu gwneud yn fwy cyfforddus a fforddiadwy ar gyfer ein preswylwyr,” meddai.
“Maen nhw hefyd yn gartrefi sy’n isel o ran allyriadau.”
Ychwanega fod y cartrefi newydd wedi cael eu hinswleiddio’n dda a’u bod nhw’n cynnwys pympiau gwres ffynhonnell aer i gynhesu dŵr a’r systemau awyru diweddaraf sy’n lleihau anwedd.
“Dyma rai o’r cartrefi newydd cynhesaf rydyn ni wedi’u hadeiladu ac maen nhw’n cyfrannu at osod y safon ar gyfer y cartrefi y byddwn ni’n mynd ati i’w hadeiladu yn y dyfodol,” meddai.
Mae’n rhaid i bob cartref sy’n cael ei ariannu drwy’r Grant Tai Cymdeithasol fodloni Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021.
Mae’r rhain yn amlinellu’r safonau ansawdd mae gofyn i gartrefi fforddiadwy eu bodloni.
Nod y gofynion yw gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi a sicrhau tai o ansawdd uchel sy’n isel o ran allyriadau carbon.