Mae cynghorydd sydd wedi diflasu wrth aros am wasanaeth bws teilwng i’w gymuned wedi cerdded 30 milltir i dynnu sylw at y mater.
Ar Chwefror 11 y llynedd, daeth y daith fws T19, sy’n teithio o Flaenau Ffestiniog i Gyffordd Llandudno, i ben gan adael cymunedau heb wasanaeth bws angenrheidiol er mwyn i nifer o bobol allu cyrraedd ysgolion, colegau, gweithleoedd, siopau ac ysbytai.
Cafodd y gwasanaeth ei ddiddymu gan nad oedd yn ariannol hyfyw i’r cwmni preifat oedd yn rhedeg y gwasanaeth.
Dadl y Llywodraeth yw fod gwasanaeth trenau ar gael sy’n rhedeg ar hyd yr un llwybr.
Y daith
Cerddodd y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn y 30 milltir o Flaenau Ffestiniog i Gyffordd Llandudno fore Sul diwethaf (Chwefror 11), gydag etholwyr, cyfeillion a chyd-gynghorwyr yn ymuno ag e ar rannau o’r daith.
Yn eu plith roedd y cynghorwyr Liz Roberts, Nia Clwyd Owen ac Aaron Wynne.
Yn ôl Nia Clwyd Owen mae cryn angen am y gwasanaeth yma yn ystod yr argyfwng costau byw.
“Dwi’n croesawu ymgyrch Elfed ac yn llwyr gefnogi ei ymdrechion,” meddai’r Cynghroydd Nia Clwyd Owen.
“Mae colli gwasanaeth y T19 yn ergyd drom i ddefnyddwyr Dyffryn Conwy hefyd.
“Roedd nifer o’m trigolion yn dibynnu ar y gwasanaeth er mwyn cael mynediad at wasanaethau sylfaenol megis apwyntiadau iechyd, bancio, ymweld â’r llyfrgell, siopa yn ogystal â chyflogaeth ac addysg.
“Dydy’r trenau ddim yn rhedeg yn ddigon cyson, ac mae’r gwasanaeth yn annibynadwy oherwydd y llifogydd a thywydd garw.
“Fel Elfed, dwi’n erfyn ar y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth a Thrafnidiaeth Cymru i symud ar hyn a gweithredu.
“Mae’r argyfwng costau byw yn parhau i effeithio ar ein trigolion, ac mae cost defnyddio trenau yn llawer uwch na’r gwasanaeth bysiau.”
Mae’r cynghorwyr wedi cysylltu â Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ac wedi codi’r mater ar lawr y Senedd yng ngwanwyn 2023 drwy law Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd.