Wrth i sir Rhondda Cynon Taf baratoi i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol eleni, mae adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi yn “awgrymu bod y Rhondda yn ail-Gymreigio o un genhedlaeth i’r nesaf”, yn ôl y darlledwr Vaughan Roderick.
Daw ei sylwadau yn dilyn cyhoeddi adroddiad Estyn ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn, sy’n nodi bod 64% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg yn y cartref.
Yn ôl Estyn, mae yna “gydweithio brwd” rhwng y pennaeth, staff a llywodraethwyr “i sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i holl waith a chymuned yr ysgol”.
“O ganlyniad, mae bron bob disgybl yn meddu ar fedrau Cymraeg cadarn wrth iddynt symud drwy’r ysgol ac yn defnyddio’r Gymraeg yn gwbl naturiol o amgylch yr ysgol ac yn ystod amseroedd egwyl,” medd yr adroddiad.
“Mae datganiad cenhadaeth yr ysgol, sef ‘Acen. Atgofion. Cred’ yn treiddio’n gelfydd yn ei hethos ar draws yr holl ddosbarthiadau.
“Mae’r pennaeth a’r staff yn annog disgyblion i ymfalchïo yn eu Cymreictod a’i ddathlu.
“Mae’r staff yn hyrwyddo defnydd y disgyblion o’r iaith Gymraeg yn arbennig o dda drwy ystod o brofiadau gwerthfawr.
“Er enghraifft, fel rhan o’u themâu, mae disgyblion yn cael cyfleoedd pwrpasol i chwarae rôl drwy gyfweld â nifer o enwogion hanesyddol cenedlaethol a phobl ddylanwadol gyfoes.
“O ganlyniad, mae medrau llafar Cymraeg a dealltwriaeth bron bob disgybl o dreftadaeth Cymru yn datblygu’n effeithiol iawn. Mae hyn yn nodwedd gref o fywyd a gwaith yr ysgol.
“Mae ymdeimlad cryf o Gymreictod a balchder at yr iaith sy’n sylfaen i holl waith yr ysgol.
“Un o rinweddau cryfaf bywyd a gwaith yr ysgol yw’r flaenoriaeth amlwg sy’n cael ei rhoi gan arweinwyr a staff i ddatblygu medrau Cymraeg a balchder bob disgybl o Gymru a’u treftadaeth.”
Cymharu’n dda ag ysgolion y cadarnleoedd
“Y peth mwyaf trawiadol yw’r canran o blant yr ysgol sy’n siarad Cymraeg yn eu cartrefi – 64.2%,” meddai Vaughan Roderick.
“Mae hynny’n cymharu’n dda â nifer o ysgolion mewn ardaloedd Cymraeg traddodiadol.
“Mae’n awgrymmu bod y Rhondda yn ail-gymreigio o un genhedlaeth i’r nesaf.”
Mae Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru, hefyd wedi croesawu’r adroddiad.
“Falch iawn o ddarllen adroddiad Estyn rhagorol ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn, a hyd yn oed gwahoddiad i gyfrannu astudiaethau achos,” meddai.
“Llongyfarchiadau i’r disgyblion, y staff, y llywodraethwyr a’r rhieni.”