Mae’r bleidlais i ddewis arweinydd nesaf Llafur Cymru wedi agor heddiw (dydd Gwener, Chwefror 16).

Dau ymgeisydd yn unig sydd yn y ras – Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, a Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi.

Daw hyn ar ôl i’r Prif Weinidog presennol Mark Drakeford gyhoeddi ei fwriad y llynedd i gamu o’r neilltu.

Dim ond aelodau Llafur neu’r rhai sy’n aelodau o undebau a sefydliadau cysylltiedig – tua 100,000 ohonyn nhw – sy’n cael pleidleisio.

Yr enillydd fydd y pumed arweinydd ers sefydlu’r Senedd – neu’r Cynulliad gynt – yn 1999.

Does dim disgwyl y bydd Mark Drakeford yn gadael ei rôl am y tro, gan gymryd yr awenau ar gyfer ei sesiwn olaf yn y Senedd ar Fawrth 19.

Pleidleisiau cyfartal

Mae’r rhan fwyaf o aelodau’r Blaid Lafur yng Nghymru wedi datgan eu cefnogaeth i Jeremy Miles, tra bod y mwyafrif o undebau mawr yn cefnogi Vaughan Gething.

Fodd bynnag, yn wahanol i unrhyw ras arweinyddol flaenorol o fewn Llafur, bydd yr holl bleidleisiau’n gyfartal y tro hwn.

Yn y gorffennol, roedd mwy o bwyslais ar bleidleisiau Aelodau Seneddol ac Aelodau o’r Senedd.

Bydd canlyniad y bleidlais yn cael ei gyhoeddi ar Fawrth 16.

Fodd bynnag, cyn i’r enillydd dderbyn swydd y Prif Weinidog, bydd yn rhaid cynnal pleidlais yn y Senedd, lle gallai’r gwrthbleidiau gyflwyno’u hymgeiswyr eu hunain.

Ond mae’n annhebygol y byddai unrhyw un o blaid arall yn cymryd y rôl, gan mai Llafur yw’r blaid fwyaf yn y Senedd.