Mae mudiad newydd wedi cael ei sefydlu i ymateb i’r argyfwng parhaus yn y Dwyrain Canol.

Dywed Atal y Rhyfel Cymru y byddan nhw’n “helpu i gydlynu ymdrechion gwrth-ryfel a negeseuon heddwch ledled Cymru”.

Mae’r mudiad yn cynrychioli mudiadau heddwch amrywiol ar draws Cymru sy’n dymuno gweld diwedd ar ryfel, a bydd Atal y Rhyfel Cymru yn trefnu a chefnogi cyfarfodydd cyhoeddus, gorymdeithiau, a gwrthdystiadau i hyrwyddo neges yn erbyn rhyfel ac imperialaeth.

Eu ffocws yn y dyfodol agos yw mynnu cadoediad ar unwaith yn Gaza, a gweithio tuag at heddwch cyfiawn yn y Dwyrain Canol.

‘Cymru’n deffro i’r ddyletswydd’

Cydlynydd Atal y Rhyfel Cymru yw Dominic MacAskill, ac mae’n dweud bod gan y mudiad “ddyletswydd i ymuno â’r condemniad rhyngwladol o erchyllterau Israel a’r galwadau am heddwch cyfiawn yn y rhanbarth”.

“Mae pobol yng Nghymru bellach wedi gorymdeithio dros heddwch yn Gaza a diwedd i’r lladdfa bob wythnos ers erchyllterau Hamas ar Israeliaid a’u herwgipio o wystlon ar Hydref 7,” meddai.

“Mae Cymru yn deffro i’r ddyletswydd honno.

“Y llynedd, mewn gwrthwynebiad i Lywodraeth Cymru ac mewn ymateb i bwysau ar lawr gwlad, cafodd cynnig ei basio yn y Senedd o blaid cadoediad ar unwaith i’r rhyfel yn Gaza.

“Bob wythnos, rydym yn gweld mwy a mwy o bobol ar orymdeithiau ar draws dinasoedd Cymru yn galw am heddwch.

“Mae’n bryd i’n llywodraethau ddeffro.

“Gobeithiwn y bydd Atal y Rhyfel Cymru yn cyfrannu at y pwysau parhaus ar ein harweinwyr i gefnogi cadoediad uniongyrchol a gwarantu hawliau pobol Palesteina i fod yn wladwriaeth, heddwch ac urddas.”