Mae’n bosibl bod bron i £12m o gyllid hanfodol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael ei neilltuo ar gyfer ‘cleifion coll’, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Yn y cyfrifiad diwethaf, roedd 100,000 yn fwy o gleifion preswyl wedi’u cofrestru mewn meddygfeydd teulu yng Nghymru na chyfanswm y boblogaeth gyfan.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd gan Gymru boblogaeth o 3,107,500 ym mis Mawrth 2021.
Fodd bynnag, roedd 3,215,010 o gleifion yn byw yng Nghymru ac wedi’u cofrestru mewn meddygfeydd yn ystod mis Ebrill 2021, yn ôl StatsCymru.
Golyga hyn fod 107,510 yn fwy o gleifion wedi’u cofrestru gyda meddygon yng Nghymru o gymharu â’r boblogaeth yn ystod y cyfnod.
‘Angen gwario’n ofalus’
Mae meddygfeydd teulu yn derbyn £111.40 y pen, felly mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn pryderu ei bod hi’n bosib fod bron i £12m yn mynd i gleifion sydd ddim yn bodoli.
“Bydd pobol ledled Cymru yn synnu ar nifer y cleifion ysbryd sydd wedi cofrestru yn ein meddygfeydd,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Gyda’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ei chael hi’n anodd, diolch i gamreoli Llafur, mae’n hanfodol fod yr holl arian yn cael ei wario’n ofalus lle mae ei angen fwyaf.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r cleifion coll hyn er mwyn gallu dyrannu cyllid gwerthfawr yn deg.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod data rhestrau cleifion meddygon teulu yn cael ei gyhoeddi bob chwarter, ac yn rhoi cipolwg ar faint cyffredinol y rhestr cleifion.
“Pan fydd pobol yn cofrestru mewn practis newydd, gall fod oedi rhyngddyn nhw’n cael eu tynnu oddi ar y gofrestr yn eu hen bractis, allai olygu bod maint y rhestr yn chwyddo dros dro oherwydd symudiad cleifion,” meddai.
“Mae Partneriaeth Cydwasanaeth NHS Cymru (NWSSP) yn cynnal gwasanaethau cofrestru cleifion ar gyfer meddygfeydd ac yn cynnal ymarferion rheolaidd i symud cleifion nad ydyn nhw bellach yn gymwys i gael eu rhestru.”