Mae Maethu Cymru Conwy wedi ymuno â’r ymgyrch newydd, ‘Gall Pawb Gynnig Rhywbeth,’ sy’n defnyddio gofalwyr maeth presennol i rannu profiadau realistig o ofal maeth.

Ar hyn o bryd, mae gan yr awdurdod lleol dros 40 o ofalwyr maeth, ond mae angen o leiaf ugain o ofalwyr maeth ychwanegol i allu ateb y galw a sicrhau bod plant sydd angen gofal maeth yn gallu aros yn eu cymunedau lleol.

Mae mwy na 7,000 o blant yn y system ofal yng Nghymru ar hyn o bryd, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth sydd ar gael.

Mae Maethu Cymru, sydd â rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu ledled Cymru, wedi gosod nod o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth erbyn 2026.

Wrth siarad â thros 100 o bobol wrth lunio’r ymgyrch, daeth i’r amlwg mai diffyg hyder yn eu sgiliau, camsyniadau ynghylch beth yw bod yn ofalwr, a’r gred na fyddai’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw yw’r prif bethau sy’n dal pobol yn ôl rhag maethu.

Gobaith Maethu Cymru yw y bydd defnyddio straeon go iawn gofalwyr yng Nghymru yn dangos bod maethu “yn hyblyg, yn gynhwysol, ac yn dod â chyfleoedd hyfforddi a datblygiad proffesiynol helaeth”.

Dim meini prawf i faethu

Mae Marie â’i gŵr Mark wedi bod yn maethu gyda Maethu Cymru Conwy ers 2019.

Maen nhw’n maethu yn y tymor byr, ac maen nhw wedi dewis maethu plant iau.

“Mae maethu yn cael effaith wirioneddol. Mae wedi gwneud byd o les i’n plant ein hunain,” meddai Marie.

“Mae wedi llunio eu personoliaethau, ac maen nhw wedi ennill cymaint o sgiliau bywyd gwerthfawr.

“Maen nhw hefyd wedi dod i ddeall y stigma o amgylch plant mewn gofal maeth, a sut mae angen mynd i’r afael ag e mewn cymdeithas.”

Yn ôl Marie, mae gofalwyr maeth yn dod o amryw o gefndiroedd, a does dim angen fod gennych chi eich plant eich hunain er mwyn maethu.

“Y cyfan sydd ei angen yw peth amser, lle yn eich cartref, a chalon fawr,” meddai.

“Bydd pobol yn aml yn dweud pethau wrtha i fel, ‘Mae’r hyn rydych chi’n ei wneud yn anhygoel’ neu ‘Mae’r plant hyn mor ffodus o’ch cael chi’. Ond dw i ddim yn ei weld felly o gwbl.

“Rwy’n teimlo mai ni yw’r rhai ffodus o gael y plant hyn yn ein bywydau.

“I mi, mae maethu yn ymwneud ag aduno teuluoedd, a byddaf bob amser yn gwneud yr hyn allaf fi i wneud i hynny ddigwydd.”

Newidiadau i’r system

Ar hyn o bryd, mae Cymru wrthi’n newid y system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.

Gwnaeth y newidiadau sydd wedi’u cynnig yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal’.

Golyga hyn y bydd gofal ar gyfer plant mewn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw erbyn 2027, ac felly mae’r angen am ofalwyr maeth lleol yn cynyddu.