Mae tair ym mhob deg o fenywod sy’n cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus yn dweud bod eu ceisiadau i weithio’n hyblyg wedi cael eu gwrthod.
Yn ôl arolwg Unsain, sy’n seiliedig ar ymatebion dros 2,500 o fenywod sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus, mae cyflogwyr yn “anghyson, anhyblyg a diddychymyg”.
Daw’r arolwg ar ddechrau cynhadledd flynyddol menywod yr undeb.
Dywed 28% o’r merched eu bod nhw wedi cael gwybod na allan nhw newid eu ffordd o weithio, a bod eu ceisiadau wedi cael eu gwrthod sawl gwaith.
Roedd 45% o’r ymatebwyr wedi gofyn am rywfaint o hyblygrwydd yn eu swyddi, er mwyn gwella’r cydbwysedd rhwng gwaith a hamdden, tra bod 37% wedi gwneud cais er lles eu hiechyd meddwl.
Ar ben hynny, roedd 38% eisiau oriau mwy hyblyg i gyd-fynd â’u hanghenion gofal plant.
Dywedodd y menywod eu bod nhw wedi derbyn amrywiaeth o esboniadau gan gyflogwyr ynghylch pam nad oedd yn bosibl iddyn nhw weithio’n hyblyg.
Roedd y rhain yn cynnwys y byddai’n effeithio ar ansawdd y gwasanaeth gaiff ei ddarparu, a’r ffaith nad oes digon o gydweithwyr i gyflawni eu dyletswyddau.
Doedd dim reswm wedi’i gynnig o gwbl i ryw un ym mhob wyth o bobol pam fod eu ceisiadau i weithio’n hyblyg wedi cael eu gwrthod.
Cyfraith gweithio hyblyg
O fis Ebrill, daw cyfraith gweithio hyblyg newydd i rym yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, a honno’n rhoi’r hawl statudol i weithwyr wneud cais am weithio hyblyg o’u diwrnod cyntaf yn y gweithle.
Ar hyn o bryd, mae’n rhaid aros chwe mis cyn gallu gwneud cais o’r fath.
Er bod Unsain yn credu bod hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir, maen nhw eisiau i fwy gael ei wneud i ganiatáu i weithwyr weithio’n hyblyg.
“Mae’n ddigalon gweld llawer o gyflogwyr yn parhau i wrthod y cyfle i’w staff weithio’n hyblyg,” meddai Jess Turner, ysgrifennydd rhanbarthol Unsain Cymru.
“Does ganddyn nhw ddim i’w golli a phopeth i’w ennill.
“Yn anffodus, mae llawer o fenywod sy’n gweld bod angen iddyn nhw roi rhywfaint o hyblygrwydd i’w bywydau gwaith yn wynebu cyflogwyr ag agweddau anghyson, anhyblyg a diddychymyg.”
Mae’r undeb yn galw ar gyflogwyr i gynnwys opsiynau gweithio hyblyg mewn hysbysebion swyddi a sicrhau eu bod nhw’n cytuno ar fwy o geisiadau.
“Nid yn unig mae helpu menywod i gydbwyso gwaith ag ymrwymiadau gofalu yn gwella morâl, ond gall hefyd helpu cyflogwyr i lenwi swyddi anodd recriwtio ar eu cyfer,” meddai.
“A chyda llai o swyddi gwag, mae gwasanaethau gaiff eu darparu i’r cyhoedd yn debygol o wella.”